Mae’r cwrs hwn ar gyfer y sawl sydd eisiau bod yn swyddog cymorth cyntaf mewn argyfwng yn y gweithle.
Mae'n gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, sy’n ddilys am 3 blynedd ac yn cyrraedd gofynion Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) (1981).
Diddordeb? Agorwch yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae’r cwrs 1 diwrnod hwn yn cael ei gynnal ar y campws o 9.30am i 4pm.
Mae'r pynciau yn cynnwys:
• swyddogaethau a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf
• asesu sefyllfa argyfwng yn ddiogel
• adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibrilwyr allanol awtomatig (AED)
• perfformio cymorth cyntaf ar berson sy’n tagu
• delio â sioc, llosgiadau, sgaldiadau, gwaedu a mân anafiadau
• I lwyddo i gael y cymhwyster, byddwch yn cwblhau asesiad ar ddiwedd y diwrnod.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Arholiad : £15.00
Ffi Cwrs: £95.00
Ariennir y rhaglen hon trwy Lluosi. I fod yn gymwys i gofrestru, rhaid i chi: