Adobe Express

L2 Lefel 2
29 Gorffennaf 2025 — 30 Gorffennaf 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Ymunwch â’n cwrs hyfforddiant Ardystiedig ar express ar gyfer dechreuwyr, a fydd yn addysgu technegau allweddol ar gyfer dylunio ac adrodd straeon yn weledol. 

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn cael cyfle i sefyll yr arholiad ar-lein a dod yn ardystiedig.  

Caiff y cwrs 1.5 diwrnod hwn ei gynnal ar y safle yn ein Campws Canol y Ddinas ar y ddau ddyddiad: 

Diwrnod 1: 9.30am – 4:00pm 
Diwrnod 2: 9.30am – 12.30pm

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Dyma’r 5 maes dan sylw:

  • Egwyddorion marchnata digidol
  • Egwyddorion dylunio
  • Creu ac addasu cynnwys
  • Rheoli cynnwys
  • Rhannu a chyhoeddi

Byddwch yn dysgu:

  • Sut i ddefnyddio egwyddorion hyrwyddo a marchnata wrth greu cynnwys
  • Strategaethau marchnata a chymhwyso brandio i gynnwys
  • Strategaethau creu cynnwys i rannu hyrwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol
  • Defnyddio ffontiau, lliw a chreu cyfansoddiadau yn Express
  • Y nodweddion hygyrchedd yn Express
  • Bod yn ymwybodol o ystyriaethau cyfreithiol a moesegol wrth ddefnyddio Adobe Firefly a chynnwys AI Cynhyrchiol
  • Templedi a thrawsnewid ffeiliau
  • Cydweithio gydag eraill
  • Trefnu a chyhoeddi ffeiliau

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £495.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych:

  • yn 19+ oed
  • heb fod mewn addysg amser llawn
  • gallwch fynychu'r ddau ddyddiad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

29 Gorffennaf 2025

Dyddiad gorffen

30 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSAEXPEP2P01
L2

Cymhwyster

Adobe Express

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE