Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi’r sgiliau i gyfranogwyr ddefnyddio Power BI ar gyfer deallusrwydd a dadansoddiadau busnes.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd dysgwyr yn gallu cysylltu, trawsnewid, dadansoddi, a delweddu data i wneud penderfyniadau busnes doeth. Mae gwybodaeth flaenorol sylfaenol am Excel yn hanfodol.
Caiff y cwrs hwn ei gynnal yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am-12.30pm.
Cyflwyniad i Power BI
Cysylltu a Pharatoi Data
Cyflwyniad i DAX (Mynegiadau Dadansoddi Data)
Cymwysiadau’r Byd Go iawn a Rhannu Cipolygon
Ffi Cwrs: £50.00
Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.