Mae’r Hyfforddiant Canolradd Excel wedi cael ei ddylunio i adeiladu ar lefel sylfaenol o wybodaeth a datblygu ystod o sgiliau canolradd Microsoft Excel ar gyfer rheoli tasgau mwy cymhleth ac anarferol.
Diddordeb? Edrychwch isod i weld pa bynciau y gallwn eu hastudio!
Dylunnir pob sesiwn i fowldio lefel profiad y rhai sy’n mynychu pob sesiwn.
Gallwn astudio pynciau fel;
Mewnbynnu a Threfnu Data
- Addasu uchder rhesi a lled colofnau, gan gynnwys awtoffitio
- Cuddio rhesi, colofnau a thablau
- Amlapio Testun
- Cyfuno a Chanoli
- Fformadu celloedd
- Fformadu fel Tabl
- Fformadu Sylfaenol Amodol
- Cyfeirnodi Celloedd Absoliwt v Perthynol, gan gynnwys cyfeirnodau cymysg
- Rheoli Sylwadau
- Argraffu Uwch
- Rhewi paenau i 2 gyfeiriad / Paenau Hollt
Rheoli Data
- Hidlyddion - Dangos Fformwlâu
- Dilysu Data
- Gwirio Data
- Cyfeirnodau celloedd cylchol ac olrhain rhagesiamplau a dibynyddion
Cyfrifiadau, Gweithrediadau a Fformwlâu Canolradd
- Cyfrifiadau mwy cymhleth a defnyddio Dangosyddion
- Datganiadau IF
- SumIF
- CountIF
- VLookup
- Cadwyno
Siartiau Sylfaenol
- Siartiau Bar
- Siartiau Pei
- Siartiau Llinell
- Echel, Arysgrifau a Theitlau
- Symud ac ailosod maint
Tablau Pifod Sylfaenol
- Creu Tablau Pifod
- Rheoli Meysydd
- Trefnu sylfaenol
Darperir y cwrs 1 diwrnod hwn ar y safle rhwng 9.30am – 4:00pm.
Addas ar gyfer unigolion sy’n defnyddio Microsoft Excel yn rheolaidd ac sy’n dymuno dysgu mwy am y pynciau uchod.
Rhaid ichi fodloni o leiaf 1 o’r 2 bwynt Gofynion Mynediad isod;
- Eisoes wedi mynychu ein Hyfforddiant Sylfaenol Excel
- A/neu yn hyderus gyda gweithrediadau Sylfaenol Excel, yn defnyddio Excel yn rheolaidd ac yn dymuno datblygu gwybodaeth am y pynciau a amlinellir isod. (Noder mai hunan-asesiad yw’r pwynt hwn ac felly byddwn yn cymryd hyn ar wynebwerth ar ôl derbyn eich cais).
Ariennir y cwrs hwn drwy brosiect Multiply Llywodraeth y DU felly bydd yn ofynnol i chi gwblhau ffurflen Ddatganiad pan fyddwch yn mynychu.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Diddordeb mewn parhau â’ch taith Excel? Beth am symud ymlaen i’n Diwrnod Hyfforddiant Uwch Excel?