Marilyn sy’n delio â’r Cydlynu a Gweinyddu ar gyfer Tîm Busnes CCAF. Mae hi’n sicrhau bod gan y Tiwtoriaid a’r Tîm Gwerthu bopeth yn ei le i gyflwyno’r ystod eang o gyrsiau a gynigir.
Mae Marilyn wedi gweithio i’r Coleg am dros 15 mlynedd. Golyga hyn fod ganddi gyfoeth o brofiad mewn gwahanol adrannau. Ei heffeithlonrwydd a’i gallu i sicrhau bod prosesau'n cael eu dilyn, gan sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei chofnodi gyda nifer o Gyrff Dyfarnu, yw ei chryfderau. Mae Marilyn yn deall anghenion cyflogwyr, cynrychiolwyr a thiwtoriaid. Mae ei gwaith yn sicrhau bod cyrsiau’n cael eu sefydlu i roi profiad cadarnhaol o’r cyswllt cyntaf hyd at ardystio/gwblhau’r cwrs.