Uwch Reolwr ar gyfer Partneriaethau Cyflogwyr

Martin Condy

Yn aelod allweddol o'r tîm Gwasanaethau Masnachol, mae Martin yn gweithio'n agos â sefydliadau er mwyn deall eu materion busnes allweddol a sut gall datrysiadau'r Coleg wneud byd o wahaniaeth i'w sefydliadau.

Mwy am Martin

Mae Martin yn arbenigwr a hyfforddwr dysgu a datblygu profiadol gydag enw da iawn am ddatblygu, darparu a rheoli mentrau dysgu a datblygu. Gyda chefndir mewn Adnoddau Dynol a hefyd blynyddoedd lawer o brofiad ymarferol mewn datblygiad a rheolaeth broffesiynol, mae Martin yn arbenigo mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Dadansoddi Anghenion Hyfforddi, Cynllunio Rhaglenni, Darparu Hyfforddiant, Gwerthuso Hyfforddiant a Dysgu a Hyfforddi. Cefnogir y wybodaeth hon gan ymrwymiad i rymuso, addysgu a chefnogi pobl i alluogi iddynt gyflawni eu potensial mewn busnes, gyrfa a datblygiad personol.