Ein Partneriaeth gyda Hodge Bank

Bu CAVC ar gyfer Busnes yn gweithio gyda Hodge Bank am ddwy flynedd, ac mae’r berthynas rhyngddynt wedi cryfhau yn ystod y cyfnod hwn wrth i’r Coleg ymateb i gefnogi amrywiaeth o anghenion Hodge. 

Gweithiodd CAVC gyda Hodge ar ei anghenion Dysgu a Datblygu, o gymwysterau a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer elfennau TG y banc, i raglenni prentisiaethau, arweinyddiaeth a datblygiad tîm. Dewisodd Hodge CAVC gan ei fod yn awyddus i gydweithio â gwerthwyr a chyflenwyr lleol sy’n cefnogi disgwyliadau a gwerthoedd y banc.

Dywedodd Nikki Harris, Prif Swyddog Pobl Interim Hodge, “Bu’r Coleg yn hynod gefnogol wrth gynorthwyo i ddod o hyd i raglenni ar gyfer bodloni’r anghenion hyfforddiant a nodwyd gennym a fydd o gymorth i ddatblygu’n sgiliau a galluoedd ar draws ein swyddogaethau ar sgiliau technegol, ein gallu i arwain a deinameg tîm,” “Maent yn ymatebol i’n hanghenion ac yn sicrhau yr adolygir yr holl opsiynau i ni naill ai gymryd mantais o opsiynau a ariennir gan y llywodraeth neu wneud defnydd o’r amrywiaeth eang o berthnasoedd sydd ganddynt i fodloni’n hanghenion.”

Mae Nikki o’r farn bod ymatebolrwydd CAVC ar gyfer Busnes, a’i allu i ganfod cyrsiau mewnol neu gyflenwyr trydydd parti wedi bod yn hynod fuddiol i Hodge. “Mae’r ffaith ein bod wedi cael tîm mewnol i greu opsiynau unigryw wedi’n galluogi i ddarparu datrysiadau unigryw ar gyfer Hodge, yn ogystal â’r gallu i gael mynediad i raglenni parod a gydnabyddir gan y diwydiant fel rhai sy’n cynnig hygrededd.”

Yn ôl Nikki, bu CAVC ar gyfer Busnes yn “hanfodol” i gynorthwyo Hodge i weithredu elfen allweddol o’i Strategaeth Dysgu, Datblygu a Phobl o fewn y cyfnod amser a gyflawnwyd.  “Rwyf yn awyddus i barhau’r berthynas a pharhau i ddatblygu’r hyn a gynigir o fewn Hodge,” ychwanegodd. “Mae ein prif ffocws eleni’n cynnwys datblygiad arweinyddiaeth, ESG, hyfforddiant, prentisiaethau, tîm datblygu, rheoli a mentora perfformiad.”

Mewn partneriaeth â