Dathlu llwyddiant y myfyrwyr yng Ngwobrau Blynyddol Coleg Caerdydd a’r Fro 2019

9 Rhag 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dathlu gwaith caled, llwyddiant a chynnydd ei ddysgwyr, gan gydnabod blwyddyn lle gwelwyd rhai o’i fyfyrwyr yn cael eu hanrhydeddu fel goreuon y byd yn eu meysydd.                  


Ymunodd cannoedd o bobl ar draws y sbectrwm o fusnesau lleol, darparwyr addysg a’r gymuned â’r dysgwyr a’u teuluoedd ar gyfer Noson Wobrwyo Flynyddol y Coleg yn 2019. Cyflwynwyd y seremoni fawreddog ar thema Gwledd y Gaeaf ar Gampws Canol y Ddinas y Coleg gan y darlledwr a chyn-fyfyriwr yn CCAF, Jason Mohammad.


Gan dynnu sylw at uchafbwyntiau blwyddyn academaidd 2018-19 (gweler y rhestr lawn o enillwyr isod), mae’r gwobrau hefyd yn dangos y profiadau unigryw a’r cyfleoedd cynnydd mae CCAF yn eu cynnig. 


Roedd yr holl fyfyrwyr a gafodd eu cydnabod ar y noson wedi ennill cystadlaethau rhyngwladol, cenedlaethol neu ranbarthol yn eu disgyblaethau unigol; wedi symud ymlaen i brentisiaethau a chyflogaeth gyda chwmnïau enwog; wedi cael llefydd mewn prifysgolion blaenllaw neu wedi perfformio’n eithriadol yn eu hastudiaethau.


Dywedodd Pennaeth CCAF, Kay Martin: “Mae Noson Wobrwyo Flynyddol Coleg Caerdydd a’r Fro yn un o uchafbwyntiau allweddol fy mlwyddyn i a bob blwyddyn mae’n well ac yn well. Mae safon y myfyrwyr rydyn ni wedi’u dathlu heno a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni wedi bod yn eithriadol.


“Er mor falch ydw i o’r holl ddysgwyr rydyn ni wedi’u cydnabod gyda’r gwobrau yma, mae’n rhaid dewis un enillydd cyffredinol ac mae’n un o’r goreuon yn ei faes yn y byd.”


Yr enillydd cyffredinol hwnnw oedd Kyle Woodward, a enillodd y wobr TG hefyd. Roedd Kyle yn fyfyriwr oedd yn serennu yn ystod ei gyfnod yn CCAF, gan gymryd rhan yn rheolaidd a sgorio’n uchel iawn mewn cystadlaethau sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills UK.


A dweud y gwir, fe berfformiodd Kyle mor dda yn y cystadlaethau heriol yma fel ei fod wedi cael ei ddewis ar gyfer Tîm y DU yn Rowndiau Terfynol WorldSkills yn Rwsia yn ystod yr haf, gan gystadlu yn y gystadleuaeth Seibr Ddiogelwch. Yn cael eu hadnabod fel ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’, mae Rowndiau Terfynol WorldSkills yn dod â’r bobl ifanc fwyaf talentog o bob rhan o’r byd at ei gilydd.                        


“Rydw i’n synnu ’mod i wedi ennill y gwobrau yma – rydw i’n dal i grynu!” meddai Kyle. “Roeddwn i eisiau gwneud fy ngorau pan ddois i i’r Coleg i ddechrau ond ’wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gallu dod mor bell â hyn. Mae’n anhygoel.”



Mae Kyle wedi symud ymlaen yn awr i astudio Seibr Ddiogelwch Cymhwysol ym Mhrifysgol De Cymru ac mae’n gobeithio bod yn dreiddbrofwr – a haciwr moesegol – gyda’i fusnes ei hun. 


Enillodd Esta Lewis y Wobr Prentisiaeth. Fel Prentis Allgymorth Treftadaeth cyntaf Rhondda Cynon Taf, mae Esta wedi cael ei hysbrydoli gan ei thaid i wneud hanes ar gael i bawb.                                     


Roedd y ferch ifanc 23 oed o Aberdâr yn gymaint o lwyddiant fel ei bod yn cynnal ac yn datblygu gweithdai yn fuan iawn ym Mhrofiad Glofaol Cymru ym Mharc Treftadaeth y Rhondda. Mae gwaith Esta yn datblygu gweithdai i ysgolion nid yn unig wedi creu incwm ychwanegol ond hefyd wedi arwain at wobr ansawdd ac eleni enillodd Esta Wobr Talent Yfory yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru.



“Mae ennill y wobr yma yn CCAF yn wych, mae wir yn arbennig,” meddai Esta. “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel – fe gefais i brentisiaeth nad oeddwn i wedi dychmygu ei chael ac mae cael fy nghanmol nawr am fy ngwaith yn dda iawn.


“Mae staff y Coleg wedi bod yn anhygoel, yn enwedig fy aseswr i, Helen Kingman. Rydw i’n dyslecsig ac fe wnaeth hi helpu gyda hynny ac mae hi bob amser yn gofalu am fy lles i.


“Mae’r wobr yma’n golygu’r byd i mi yn enwedig gan fy mod i yn y sector amgueddfeydd, sy’n anodd mynd i mewn iddo. Mae gallu cael prentisiaeth, swydd a chael fy nghydnabod gyda gwobr hefyd yn anhygoel.”


Aeth y Wobr Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus a Thwristiaeth i’r myfyriwr Chwaraeon Aaron Tyner. Yn benderfynol o oresgyn unrhyw her y byddai’n ei hwynebu, mae Aaron wedi dangos ei fod yn fwy nag abl, fel capten Academi Bêl Droed CCAF ochr yn ochr â’i astudiaethau.



Mae’n astudio ym Mhrifysgol De Cymru yn awr, gan hyfforddi a chwarae pêl droed yn broffesiynol, ac mae Aaron wedi profi ei fod yn llysgennad ar ran y Coleg, gan gynrychioli CCAF a Cholegau Cymru mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog Brexit i ddangos manteision ymweliadau Eras+.


“Roeddwn i braidd yn nerfus am godi i gael y wobr yma,” meddai Aaron, sy’n 18 oed ac yn dod o Gaerdydd. “Rydw i wedi ennill gwobr o’r blaen ond mae hyn yn gwbl wahanol – mae hyn ar lefel uchel ac rydw i’n falch iawn o fod wedi ennill.”


Jessica Dix oedd enillydd y Wobr Gwasanaethau Adeiladu. Gan dorri trwodd i’r diwydiant gwresogi, awyru ac oergelloedd sy’n llawn dynion yn draddodiadol, enillodd Jessica y teitl rhanbarthol yn rowndiau WorldSkills eleni a bydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn rowndiau terfynol y DU yn 2020.


“Mae ennill y wobr yma’n anhygoel,” meddai’r ferch 28 oed o’r Barri. “Mae’n braf gwybod bod eich holl waith caled chi wedi talu ar ei ganfed ac rydw i wedi gwneud hyn i mam a dad ac i bawb arall sydd wedi credu ynddo i yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”



Roedd cyn-fyfyriwr, Ben Thomas, yn un o enillwyr Gwobr Cyn-fyfyrwyr CCAF. Yn gapten hynod boblogaidd ar Academi Rygbi CCAF yn ystod ei gyfnod yn y Coleg, mae Ben wedi mynd ymlaen i arwyddo contract lefel hŷn gyda Gleision Caerdydd, ennill Gwobr Newydd-Ddyfodiad y Flwyddyn yr Uwch-Gynghrair a chafodd ei enwi yn Chwaraewr y Flwyddyn Academi Gleision Caerdydd.


Enillodd Kristian Brooks y Wobr am Gyfraniad Eithriadol, am ei ymrwymiad diflino i weithio yn ei amser ei hun yn helpu tîm Dysgu Gyda Chymorth Technoleg y Coleg. Hefyd cynrychiolodd Gymru eleni yn y gystadleuaeth Dadansoddwr Systemau Rhwydwaith yn rowndiau terfynol WorldSkills UK.


Dathlwyd sefydliadau partner y Coleg hefyd - Circle IT, Hafod, It’s My Shout, Microsoft, Castell Howell a Chriced Morgannwg - am eu dulliau arloesol o weithredu gydag Addysg Bellach ar ran y Coleg.


Cefnogodd amrywiaeth eang o noddwyr y digwyddiad, gan sicrhau bod y Coleg yn gallu cydnabod cyflawniad y dysgwyr mewn steil. Hoffai CCAF ddiolch i Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Circle IT a Phrifysgol De Cymru am sicrhau bod y gwobrau’n llwyddiant.


Categori’r Wobr

Enillydd

Cwrs

Mynediad

April Dee

Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth

Awyrofod

Audrey Tao

Diploma 90 Credyd mewn Peirianneg Awyrofod

Celf, Dylunio ac Amlgyfrwng

Chelsea Maton

BTEC Lefel 3 Dylunio Cynnyrch

Moduro

Sam Phillips

Prentis Atgyweirio Cerbydau

Harddwch a Therapi Ategol

Holly Edwards

Therapi Harddwch Lefel 3

Gwasanaethau Adeiladu

Jessica Dix

Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 (Trydanol, Plymio, Gwresogi, Awyru ac Oergelloedd)

Busnes

Lucy Richards

Astudiaethau Ariannol, Diogelwch a Buddsoddiad Lefel 3

Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar

Tracy Nugent

Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysg a Datblygiad

Adeiladu

Jack Mardon

Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig Lefel 3

Addysg a Hyfforddiant

Craig Evans

TAR

Peirianneg

Mohammad Hussain

Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol/ Electronig

ESOL

Jordan Konate

ESOL Camu i AB

Addysg Gyffredinol

Lauren White

Safon Uwch

Trin Gwallt

Yvonne Preece

Trin Gwallt Lefel PAL

Iechyd a Gofal

Abbie Lock

Diploma Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal

Lletygarwch ac Arlwyo

Ieuan Jones

Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch

TG

Kyle Woodward

TG Lefel 3 (Rhwydweithio a Chefnogi Systemau)

Celfyddydau Perfformio

Daniel Williams

Diploma Lefel 3 mewn Technoleg Cerddoriaeth

Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu

Ethan Matthews

Mynediad Galwedigaethol

Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus a Thwristiaeth

Aaron Tyner

Diploma Estynedig mewn Chwaraeon

Oedolion a’r Gymuned

Robert Phillips

Lefel Mynediad ABE Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol

Prentisiaeth

Esta Lewis

Prentisiaeth mewn Treftadaeth Ddiwylliannol

Prentisiaeth Iau

Mason Evans

Prentisiaeth Iau

Addysg Uwch

Ian Lewis

BEng (Anrh) Peirianneg Awyrennau

Rhyngwladol

Joshua Yiteng

Safon Uwch

Busnes a Phartner

Circle IT


Busnes a Phartner

Hafod


Busnes a Phartner

It’s My Shout


Busnes a Phartner

Microsoft


Busnes a Phartner

Castell Howell


Busnes a Phartner

Criced Morgannwg


Cyfraniad at Fywyd y Coleg

Kristian Brooks


Cyn-fyfyrwyr

Ben Thomas


Cyn-fyfyrwyr

Frida Tveit


Gwobr y Pennaeth

Kyle Woodward