Coleg Caerdydd a’r Fro wedi’i raddio’n ‘dda’ ac yn ‘rhagorol’ gan Estyn

26 Chw 2019

Mae adroddiad archwiliad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ynglŷn â darpariaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a’r Fro yn dangos bod pob maes a archwiliwyd wedi’u graddio’n ‘dda’ neu’n ‘rhagorol’.

Coleg Caerdydd a’r Fro yw’r ail Goleg Addysg Bellach yng Nghymru i gael ei archwilio’n ôl fframwaith newydd, a’r cyntaf i gael y radd ‘Rhagorol’ newydd o fewn y fframwaith hwn, ar gyfer llesiant ac agwedd at ddysgu.

Mae’r adroddiad cadarnhaol hwn yn tynnu sylw at ansawdd gwaith y Coleg a’i effaith ar ddysgwyr, cymunedau a chyflogwyr yn y rhanbarth. Nododd y “dull hynod glir a strategol o ymdrin â’i ddarpariaethau gyda’r nod o ddatblygu pobl fedrus a chyflogadwy.”

Ymhellach, mae’n cydnabod bod y coleg yn “hollbwysig o ran cefnogi twf economaidd a datblygu sgiliau o fewn y rhanbarth”.

Bernir bod y safonau’n dda drwy’r coleg i gyd. Sonia’r adroddiad am y cynnydd a wna dysgwyr o’u man cychwyn a’r amrywiaeth eang o sgiliau y mae dysgwyr yn eu harddangos ac yn eu dysgu yn ystod eu cyfnod gyda Choleg Caerdydd a’r Fro, ynghyd â’r athrawon sy’n “ennyn diddordeb ac yn cymell y dysgwyr”.

Un maes y cydnabyddir ei ragoriaeth yn arbennig yn yr adroddiad yw llesiant y dysgwyr a’u hagwedd gyffredinol at ddysgu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae’r arolygwyr yn nodi’r amrywiaeth eang o weithgareddau sydd ar gael i ddysgwyr oddi mewn ac oddi allan i’w cyrsiau – o gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau i leoliadau gwaith, o friffiau byw i gymryd rhan mewn rhaglenni llesiant a chyfoethogi amrywiol – a bod nifer o ddysgwyr “yn ffynnu wrth gymryd rhan mewn profiadau newydd a heriol”.

Yn ôl yr adroddiad, “mae dysgwyr sy’n cymryd rhan mewn lleoliadau allanol yn datblygu gwytnwch a sgiliau gwych o ran datrys problemau’n ymwneud â’r gwaith, sef sgiliau a fydd yn cefnogi’u taith i’r byd gwaith”, gyda nifer o ddysgwyr yn datblygu “ymddygiad a sgiliau gwaith hynod effeithiol sy’n cefnogi’u dyheadau gyrfa” a’r mwyafrif yn datblygu “sgiliau arwain gwerthfawr” ynghyd â “phenderfynoldeb, parodrwydd i ymgyfaddasu a phroffesiynoldeb”.

Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’n gryf y cymorth a’r cynhwysiant a gynigir gan Goleg Caerdydd a’r Fro, ynghyd â’r parch tuag ato – dyma’r coleg mwyaf amrywiol yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw’n benodol at y ffaith fod dysgwyr yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ac mae’r adroddiad yn nodi bod dysgwyr “yn hyderus bod arferion drwy’r coleg yn effeithiol o ran cynorthwyo’u llesiant” a’u helpu i wireddu’u potensial.

Sonia arolygwyr Estyn am y cymorth eang a ddarperir gan Goleg Caerdydd a’r Fro. Cyfeirir yn benodol at y modd y mae “dysgwyr mwy abl a thalentog yn elwa ar weithgareddau cyfoethogi a gweithgareddau ymestyn heriol”; sut y mae’n datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog; yn cynorthwyo’r rhai sy’n dymuno datblygu’u sgiliau Saesneg a Mathemateg a’u sgiliau digidol fel rhan o’u cwrs, yn cynnwys ailsefyll arholiadau TGAU; ac yn cynorthwyo dysgwyr a chanddynt ddatganiadau neu anghenion dysgu ychwanegol i symud ymlaen i’r coleg.

Noda’r arolygwyr hefyd fod dysgwyr “yn gefnogol iawn i’r naill a’r llall a’u bod yn parchu amrywiaeth” a bod hyn “yn cyfrannu’n sylweddol at ethos cynhwysol y coleg.” Caff hyn ei adlewyrchu yn y pethau a gyflawnir ganddynt, “gan fod dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, dysgwyr ag anableddau a dysgwyr o’r rhan fwyaf o grwpiau ethnig lleiafrifol yn llwyddo i gyflawni’u cymwysterau’n unol â pherfformiad cyffredinol dysgwyr yn y coleg”.

Ymhellach, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at “bartneriaethau eithriadol [Coleg Caerdydd a’r Fro] gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid” a bod y Coleg “yn hollbwysig o ran cefnogi twf economaidd a datblygu sgiliau o fewn y rhanbarth”. Credir bod tîm arwain y Coleg “yn canolbwyntio’n fanwl ar ddiwallu anghenion y rhanbarth o safbwynt addysg, hyfforddiant a busnes”.

Dywed Estyn fod y canolbwyntio hwn yn arwain at “amrywiaeth eang o gyrsiau a gaiff eu teilwra’n ôl anghenion dysgwyr, y gymuned a chyflogwyr”, gan ddatblygu “pobl fedrus a chyflogadwy” ar gyfer y rhanbarth.

Ymhellach, mae’r adroddiad yn trafod y modd y mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn diwallu anghenion amrywiol y gymuned y mae’n ei gwasanaethu, gan ddod i’r casgliad fod y Coleg “yn rhoi cefnogaeth gref i grwpiau cymunedol lleol, gan lwyddo i ennyn diddordeb dysgwyr sy’n anodd eu cyrraedd o safbwynt addysg a hyfforddiant”. Yn hyn o beth cyfeirir at y ddarpariaeth ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) eang a gynigia’r Coleg ar draws y ddinas a’r rhaglen Prentisiaethau Iau arobryn ar gyfer plant 14-16 oed sydd wedi ymddieithrio, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag ysgolion ac awdurdodau lleol.

Medd Kay Martin, y Pennaeth: “Ers sefydlu Coleg Caerdydd a’r Fro ein bwriad oedd bod yn fwy na ‘ffatri gymwysterau’ yn unig. Ein nod yw datblygu, cynorthwyo a herio unigolion yn ystod eu cyfnod gyda ni i ddod yn bobl fedrus a chyflogadwy sy’n wahanol i’r rhelyw ac sy’n llwyddo i symud yn eu blaen.

“Rydym wrth ein bodd fod yr adroddiad yn cydnabod hyn – nid yn unig trwy gynnig addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf, ond trwy sicrhau bod gan bob dysgwr gyfle i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith, cystadlaethau sgiliau a gweithgareddau eraill sy’n eu hymestyn ac yn eu herio, a datblygu eu sgiliau a’u cymwysterau ehangach gan eu hysgogi i gyrraedd eu potensial.

Yn ôl Mike James, Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro: “Fel Coleg yn rhanbarth Prifddinas Cymru, rydym yn gweithio mewn cyd-destun unigryw. Mae’r rhanbarth a wasanaethwn yn cynnwys un o’r ardaloedd mwyaf amrywiol o safbwynt ffyniant economaidd a’r cymunedau sy’n rhan ohoni – ni yw’r coleg mwyaf amrywiol yng Nghymru.

“Rydym wrth ein bodd fod yr adroddiad yn cydnabod bod y Coleg yn hollbwysig o ran cefnogi twf economaidd a datblygu sgiliau o fewn y rhanbarth ynghyd â chwrdd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn ymfalchïo mewn bod yn goleg cynhwysol – trwy weithio gyda chyflogwyr a chefnogi ein cymuned leol – gan herio ein dysgwyr mwyaf abl ac ennyn diddordeb dysgwyr anodd eu cyrraedd. Mae’r llwyddiannau hyn yn dystiolaeth o waith caled ac ymroddiad ein staff anhygoel.”

Coleg Caerdydd a’r Fro yw’r coleg mwyaf yng Nghymru ac mae ymhlith y pum coleg mwyaf yn y DU, gyda mwy na 30,000 o ddysgwyr bob blwyddyn. Mae’r ddarpariaeth addysg bellach a archwiliwyd yn yr adroddiad hwn yn cyfateb i oddeutu 30% o’r hyn y mae Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro yn ei gynnig, sydd hefyd yn cynnwys y ddarpariaeth fwyaf drwy’r wlad o ran prentisiaethau, ynghyd â chyrsiau Addysg Uwch a hyfforddiant i fusnesau ar draws y rhanbarth a thu hwnt.

Cyhoeddir fersiwn lawn o’r adroddiad heddiw, 26 Chwefror 2019, ar wefan Estyn.