Coleg Caerdydd a’r Fro yn cydweithio ar Brosiect I-WORK Arloesol

14 Awst 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael ei ddewis fel y Partner Arweiniol yn un o chwe phrosiect cydweithredol ar gyfer Rhaglen I-WORK (Gwella Cyfleoedd Gwaith – Cyflwyno Gwybodaeth) Cyngor Prydain/Tramor a’r Gymanwlad.

Gan weithredu rhwng partneriaid dethol yn y DU, De Affrica, India, Ghana a Malaysia, mae’r prosiect sy’n cael ei gyllido’n rhoi sylw i thema ‘Dyfodol Tecach’ Uwchgynhadledd y Gymanwlad, gyda phwyslais ar hybu buddiannau 60% o boblogaeth y Gymanwlad sydd dan 25 oed.

Amcanion y prosiect yw datblygu gallu i arfer addysg gynhwysol dan arweiniad cyflogwyr ymhlith partneriaid, ac wedyn treialu gweithgareddau sy’n cofnodi canlyniadau i’w bwydo i ddigwyddiadau dosbarthu polisïau.

Cynhaliwyd y cam cyntaf o bedwar cam y prosiect yn Ne Affrica ar y 23ain o Orffennaf gyda chyfres o weithdai i Arweinwyr i ddiffinio fframwaith strategol y prosiect. Wedyn bydd ymarferwyr cyfarfod y prosiect yn dyfeisio cynlluniau peilot â’u ffocws ar atebion. Wedyn bydd y prosiectau peilot yn cael eu cyflwyno yn y wlad a bydd y canlyniadau’n cael eu casglu a bydd pob gwlad yn cynnal gweithdai cenedlaethol sy’n cynnwys y 6 chlwstwr i gyd.

Mynychodd Mary Kent, Is Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, y gweithdy i Arweinyddion ochr yn ochr â Martin Condy, Uwch Reolwr ar gyfer Partneriaethau Cyflogwyr.

“Rydyn ni’n hynod falch o fod yn rhan o’r prosiect cydweithredol yma a byddwn yn gweithio i gasglu nifer o astudiaethau achos ar draws y colegau cysylltiedig er mwyn dangos yr arloesi a pha mor unigryw yw partneriaethau cyflogwyr mawr. Cytunodd y gweithdai Arweinwyr yn llwyddiannus ar fframwaith ar gyfer sefydlu Byrddau Cynghori Cyflogwyr yn y sectorau allweddol, a fframwaith ar gyfer casglu gwybodaeth am y Farchnad Lafur.

“Wrth symud ymlaen, rydyn ni’n edrych ymlaen at gadeirio cynadleddau rheolaidd gyda phartneriaid i wneud cynnydd gyda’r prosiect a byddwn yn cynnal y digwyddiad i ymarferwyr ym mis Hydref yma yn CAVC”.