Siwrnai Oscar: Myfyriwr Safon Uw o Goleg Caerdydd a’r Fro i astudio’r Clasuron ym Mhrifysgol Caergrawnt

5 Maw 2021

Bydd Oscar Griffin, myfyriwr Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, yn teithio i Gaergrawnt yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, ar ôl cael ei dderbyn i ddarllen Clasuron yn y brifysgol uchel ei pharch.

Roedd Oscar ymhlith un o'r grwpiau cyntaf i astudio Clasuron Safon Uwch yn CAVC, a lansiodd y cwrs ddwy flynedd yn ôl. Hefyd roedd y llanc 18 oed o Gaerdydd yn rhan o Raglen Ysgolheigion Safon Uwch y Coleg, sydd wedi'i chynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n dangos rhagoriaeth academaidd ac sydd eisiau ehangu eu dysgu y tu hwnt i'r cwricwlwm Safon Uwch traddodiadol, gan eu cefnogi i wneud cais am brifysgolion elitaidd.

Er bod Oscar yn gyffrous iawn, nid yw'r newyddion ei fod wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caergrawnt wedi ei daro yn iawn eto. "Rydw i'n dal i aros am yr e-bost 'Wps, sori – rydyn ni wedi cysylltu â’r person anghywir' i fod yn onest," meddai Oscar.

Dewisodd Oscar astudio Safon Uwch yn CAVC gan ei fod eisiau symud ymlaen o'r ysgol.

"Ar ôl cael amser caled yn yr ysgol uwchradd, roeddwn i eisiau astudio yn rhywle gydag enw da am hyrwyddo cydraddoldeb a pheidio â goddef gwahaniaethu," esboniodd. "Fe wnaeth ymrwymiad y Coleg i Siarter Traws*Ffurf Cymru fy sicrhau i bod CAVC yn lle diogel i fyfyrwyr trawsryweddol, a dangosodd y nosweithiau agored pa mor frwd yw'r tiwtoriaid am eu pynciau – yn enwedig Clasuron, a doedd y pwnc yma ddim ar gael yn fy ysgol uwchradd i nac mewn unrhyw ysgol arall oeddwn i’n ymwybodol ohoni."

Mae'n credu bod ei gyfnod yn y Coleg, a'r gefnogaeth mae wedi'i chael, wedi ei baratoi ar gyfer astudio yn un o brifysgolion enwocaf y byd.

"Mae fy athrawon i’n ymgysylltu'n llawn ac yn angerddol am eu pynciau, yn enwedig fy athro Gwareiddiad Clasurol, Danny, wnaeth fy ngwthio i wneud cais a fy helpu drwy'r broses, a fy Nhiwtor Dosbarth, Matthew, wnaeth rywbeth yn iawn gyda ’ngeirda i mae’n rhaid!" meddai Oscar. "Mae astudio yn CAVC yn cynnig llawer o annibyniaeth, gan wneud iddo deimlo'n debycach i brifysgol yn barod."

Roedd dod i'r Coleg yn newid i'w groesawu.

“Fe wnes i fwynhau gweithio mewn amgylchedd cymysg lle rydych chi’n cael eich trin fel oedolyn, gyda’r tiwtoriaid yn dysgu, ymgysylltu a herio o hyd,” esboniodd. “Hefyd, mae gwneud ffrindiau newydd ac astudio yng nghanol y ddinas yn grêt.”

Mae Oscar hefyd yn teimlo bod Rhaglen Ysgolheigion y Coleg o help mawr.   

"Mae'r Rhaglen Ysgolheigion yn gyfle gwych i fynd y tu hwnt i'ch cwricwlwm penodol a gweithio gyda phobl a allai fod â chynlluniau gyrfa tebyg i chi'ch hun," meddai. "Mae'r cynghorwyr gyrfaoedd a'r tiwtoriaid yn CCAF mor barod i helpu ac yn eich annog chi bob amser i wthio eich hun i wella. Dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i'n ei wneud pe na bawn i wedi dod i CAVC i ddilyn Clasuron"

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: "Llongyfarchiadau Oscar! Rydyn ni i gyd wrth ein bodd ei fod yn mynd i astudio clasuron ym Mhrifysgol Caergrawnt – mae'n dyst i holl waith caled Oscar a gwaith caled y tîm Safon Uwch sydd wedi ei gefnogi i gyrraedd yno."