Stori tudalen flaen! Newyddiadurwr Iau yn CAVC Jack ar Restr Fer Gwobr Sgŵp Fawr

16 Maw 2021

Mae Jack Grey, Newyddiadurwr Iau ar gynllun prentisiaeth sy'n cael ei redeg gan Goleg Caerdydd a'r Fro mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales ac ITV Cymru, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Sgŵp Fawr gan y Cyngor Hyfforddi Newyddiadurwyr Cenedlaethol.

"Mae'n dda iawn, iawn cael fy enwebu gan fod y gwobrau yma’n cael eu cynnal ledled y DU felly mae'n wych gweld fy enw i gyda phawb arall," meddai Jack. "A hefyd mae gweld enw o Gymru yn beth da achos does dim llawer ohonon ni ar y rhestr."

Jack yw un o’r criw cyntaf o brentisiaid Newyddiaduraeth Ddigidol mewn rhaglen a ddarperir gan y Coleg gyda’r BBC Academy ac ITV Cymru. Y llanc 23 oed o Abertawe oedd un o'r rhai cyntaf yn y lleoliad pan dynnwyd cerflun y gŵr busnes a'r masnachwr caethweision Edward Colston i lawr ym Mryste yn ystod un o'r protestiadau a sbardunwyd gan lofruddio George Floyd yn America yr haf diwethaf.

"Roeddwn i yn y brotest ym Mryste ar fy liwt fy hun, nid fel rhan o’r cwrs, ac fe ddechreuodd pethau fynd yn ddyrys," esbonia Jack. "Fe wnes i estyn fy nghamera a ffilmio'r cerflun yn cael ei dynnu i lawr.

“Fe wnes i roi’r ffilm ar trydar, gan ddweud ei fod gan y BBC, ac wedyn fe gefais i lu o geisiadau am ei defnyddio ym mhob man. Roeddwn i wedi synnu – fe wnes i dreulio gweddill y pnawn yn delio gyda negeseuon e-bost ac yn anfon copïau at bobl.

“Roedd yn braf bod yn rhan o rywbeth sydd wedi mynd rownd y byd ers hynny.”

Ac o ganlyniad, mae NCTJ wedi gosod Jack ar restr fer y categori Sgŵp Fawr yn ei Wobrau Rhagoriaeth ar gyfer 2020, a fydd yn cael eu cyhoeddi y mis yma.

Mae Jack yn teimlo bod ei brentisiaeth wedi bod yn gyflwyniad ardderchog i newyddiaduraeth – diwydiant y mae'n anodd iawn cael mynediad iddo.

"Mae'r darlithwyr a'r tiwtoriaid wedi bod yn dda iawn ac mae hefyd wedi bod yn dda gweithio a dysgu ar yr un pryd," meddai. "Mae'n golygu bod yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu yng nghyd-destun swydd go iawn – mae'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n rhan o’r cynllun wedi gweithio ym maes newyddiaduraeth, rhai ar lefelau uwch, felly rydych chi'n cael budd o'u profiad nhw.

"Pan fyddaf yn gorffen y cwrs yma byddaf yn cerdded i mewn i swydd ym maes newyddiaduraeth ac rydw i'n gwybod fy mod yn teimlo y bydd fy sgiliau i'n ddigonol ar gyfer y swydd."

Mae'r cwrs yn sicr wedi rhoi cyfle i Jack ddechrau ar yrfa yn y cyfryngau, rhywbeth nad oedd yn credu fyddai'n digwydd byth.

"Mae bob amser yn rhywbeth rydw i wedi bod â diddordeb ynddo ond doeddwn i byth yn ystyried newyddiaduraeth fel gyrfa addas – ysgrifennu ar gyfer y teledu efallai neu rywbeth felly," meddai. "Wedyn fe ddois i ar draws y brentisiaeth roedd y BBC yn ei chynnig ac roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n rhoi cynnig arni.

"’Fyddwn i ddim eisiau gwneud unrhyw beth arall nawr yn sicr – mae'n dda bod ganddyn nhw gynlluniau fel hyn fel bod pobl sydd heb raddau neu raddau meistr yn gallu cymryd rhan – pobl fel fi."

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: "Rydyn ni i gyd wrth ein bodd gyda'r ffaith bod Jack wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Sgŵp Fawr yng Ngwobrau Rhagoriaeth NCTJ. Mae'r Brentisiaeth Ddigidol rydyn ni'n ei rhedeg mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales ac ITV Cymru wedi'i chynllunio i helpu pobl i ddod o hyd i yrfa mewn newyddiaduraeth, pobl na fyddai wedi cael y cyfle fel arall efallai – ac mae meddwl cyflym ac ymddygiad proffesiynol Jack yn ystod yr haf yn dangos bod y brentisiaeth yn cael canlyniadau.

"Da iawn i Jack a da iawn i bawb sy'n gweithio ar y rhaglen – mae hyn yn dyst i'ch holl waith caled a’ch ymrwymiad."