Dathlu'r prentisiaid gorau yn y rhanbarth yng Ngwobrau Prentisiaeth Coleg Caerdydd a'r Fro 2024

9 Chw 2024

Cafodd gwaith caled ac ymroddiad 28 o'r prentisiaid gorau sy'n gweithio yng Nghymru eu dathlu yng Ngwobrau Prentisiaeth Coleg Caerdydd a'r Fro 2024.


Cafodd cyflogwyr ac ymarferwyr sydd wedi mynd y filltir ychwanegol honno yn eu hymrwymiad i ddysgu seiliedig ar waith hefyd eu cydnabod yn y seremoni, a gynhaliwyd yn lleoliad ysblennydd Campws Canol Dinas y Coleg a’i harwain gan y cyflwynydd Ross Harries.


Cynhaliwyd y seremoni yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac mae gwobrau Prentisiaeth CCAF yn cydnabod cyflawniadau prentisiaid ar draws rhwydwaith CCAF o 19 o is-gontractwyr prentisiaethau arbenigol, gan hyfforddi mwy na 2,800 o ddysgwyr seiliedig ar waith ar draws 50 o sectorau diwydiant. Mae rhestr lawn o'r enillwyr isod.


Yr 19 o isgontractwr y mae CCAF yn gweithio gyda nhw yw: CCFC, Bosch Automotive, Brothers Constantinou, Coleg QS, Focus On, JGR Training, JTL, Kwikfit GB Ltd, More Training, NDGTA, Pengwin, People Plus, Remit, Safe and Secure, Sgil Cymru, Skillnet, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Hyfforddiant Tudful, a WBTA.


Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans: "Grŵp CCAF yw'r darparwr prentisiaethau mwyaf yng Nghymru. Rydym yn credu'n angerddol yng ngrym prentisiaethau ac mae'r sawl sydd wedi ennill y gwobrau i gyd yn enghraifft anhygoel o hyn. 


"Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Estyn adroddiad ar ein darpariaeth o ran prentisiaethau yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'r adroddiad cadarnhaol yn tynnu sylw at ansawdd uchel ein darpariaeth ar gyfer prentisiaethau, gan gynnwys ymarfer effeithiol ac arloesol sydd, ym marn Estyn, yn deilwng i gael ei efelychu a’i ledaenu ehangach.


"Rwy'n falch iawn bod gwaith ein prentisiaid, cyflogwyr a chydweithwyr yn cael ei gydnabod mewn modd mor deilwng. Mae prentisiaethau'n anhygoel ac mae'n rhan o’n rôl ni gyd i barhau i ledaenu'r gair hwnnw i bawb."


Eleni, roedd dau enillydd y wobr ar gyfer Prentis y Flwyddyn: Lowri Scandrett, Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Cyfrifeg a Will Hougham, Phrentis Lefel 3  y Cyfryngau Creadigol a Digidol.


Mae Lowri, a enillodd y Wobr Cyfrifeg, hefyd wedi cael ei disgrifio gan ei thiwtoriaid fel seren y dyfodol. Mae Lowri sy'n gweithio yn y BBC wedi goresgyn heriau yn ystod ei rhaglen AAT Lefel 4 oherwydd maint y gwaith yr oedd angen iddi ei ddysgu mewn cyfnod byr, ond roedd hi'n benderfynol bob amser ac fe weithiodd yn eithriadol o galed a llwyddo i gael sgorau uchel yn ei hasesiadau. 

Cydnabuwyd gwaith rhagorol Lowri gyda Chanmoliaeth Uchel yng nghategori Prentis Cyllid y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyllid Cymru ac mae hi bellach wedi symud ymlaen i'r cynllun graddedigion o fewn Tîm Canolog Cyllid y BBC lle mae'n gweithio tuag at ei chymhwyster ACCA.


Yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn Real SFX, mae Will wedi dangos gwir ymrwymiad ac ymroddiad, ar ôl mynd ati i arallgyfeirio ei ddysgu a'i gymwysterau trwy nifer o gyrsiau. Ers cwblhau ei fframwaith prentisiaeth yn Real SFX yn hynod lwyddiannus, mae Will wedi ffynnu fel technegydd effeithiau arbennig yn y diwydiant sgrîn; o chwythu Daleks i fyny yn Dr Who i greu gwynt, glaw ac eira ar gyfer dramâu amrywiol.


Mae bellach yn mynychu digwyddiadau gyrfa i helpu i ddod â recriwtiaid SFX newydd i'r diwydiant ac yn mentora prentisiaid eraill sy'n dilyn yr un llwybr ag ef - gan eu cynorthwyo yn eu twf a'u datblygiad eu hunain.


Enillodd y prentis Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, Emily Crawley, a'r prentis Lefel 3 Electrodechnegol, Alyn Udy, Wobr Model Rôl am arddangos rhagoriaeth yn ystod eu prentisiaethau, gan ddangos cyflawniad ysbrydoledig.


Wedi'i chyflogi gan Deloitte, safodd Emily allan o'r diwrnod cyntaf, gan gyflwyno gwaith o ansawdd uchel yn ei hastudiaethau coleg a thasgau yn y gweithle. Mae Emily yn gyfathrebwr ardderchog ac yn gymorth i gydweithwyr, rheolwyr a chyfoedion, ac mae'n gweithredu fel cyfaill a mentor i weithwyr newydd a'r garfan ddiweddaraf o brentisiaid.


Cafodd gwaith caled Emily ei gydnabod pan enillodd wobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Canolfan Gyswllt 2023.


Dechreuodd Alyn ei brentisiaeth gydag EMIS ar ôl gadael y fyddin a chwilio am newid gyrfa. Yn hynod ymrwymedig a chefnogol i fyfyrwyr ifanc – gan ddarparu cyngor ac arweiniad amhrisiadwy – bu Alyn yn gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau er mwyn ymdrin â'r ystod o waith yr oedd o angen ei wneud ar gyfer ei bortffolio.


Talodd yr holl waith caled hwn ar ei ganfed a llwyddodd Alun i gwblhau ei brentisiaeth ymhell dros flwyddyn yn gynt na'r disgwyl. Mae stori Alyn yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sy'n ystyried newid eu gyrfa.


Enillodd Cydlynydd Dysgu Seiliedig ar Waith CCAF Steve Traylor a Phennaeth Hyfforddiant Sgil Cymru, Nadine Roberts, Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn am eu cefnogaeth ragorol i brentisiaid a chydweithwyr ac am y gwerth y maent yn ei ychwanegu at eu sefydliadau.


Roedd cyflogwyr sy'n mynd allan o'u ffordd i annog a chefnogi prentisiaid hefyd yn cael eu cydnabod. Eleni fe enillodd Acardis - Cynghrair Prentisiaethau Cymru, Deloitte, Byddin yr Iachawdwriaeth a Gwasanaethau Snap Wobrau Cyflogwr y Flwyddyn.


 Fel yr esboniodd Ross Flanigan, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Busnes ac Arweinydd Canolfan Gyflawni Caerdydd: "Pan oeddem yn agor ein Canolfan Gyflawni yng Nghaerdydd, gwnaethom weithio mewn partneriaeth â CAVC i ddylunio llwybr prentisiaeth, recriwtio ar ei gyfer a'i gyflwyno gan sicrhau ei fod yn cynnig rolau yn ein busnes ar gyfer pobl na fyddai wedi cael rôl mewn cwmni o'r fath fel arall. Mae wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda rhai unigolion arbennig yn ymuno â'r busnes ac yn symud ymlaen i yrfaoedd gwerth chweil. 

"Mae'r cynllun yn cynnig opsiwn lleol a chynaliadwy er mwyn creu tîm amrywiol a thalentog. Mae tua 130 o bobl wedi ymuno â ni drwy'r brentisiaeth hon - y mwyafrif ohonyn nhw'n dal i fod gyda ni, a dull cydweithredol CAVC sydd wedi sicrhau llwyddiant y cynllun."

Ar lefel busnesau bach a chanolig, ceir sawl enghraifft o brentisiaethau'n chwarae rhan greiddiol wrth ddatblygu gweithluoedd arbenigol, tra medrus. Er enghraifft, cwmni aerdymheru Snap Services yng Nghaerdydd. Esboniodd y Cyfarwyddwyr, Peter Hopson a Nathan Kersley: "Fel peirianwyr prentis y dechreuodd y ddau ohonom ein gyrfaoedd ac yna dringo drwy'r rhengoedd gan ennill gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr ar hyd y ffordd. Wrth ddatblygu ein busnes ein hunain, mae hyfforddiant drwy brentisiaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod aelodau ein gweithlu yn weithwyr proffesiynol medrus yn y diwydiant, wrth ddatblygu talent newydd ac ehangu sgiliau ein staff yn barhaus."


Ychwanegodd Pennaeth CCAF, Sharon James-Evans: "Hoffwn longyfarch  pob un o'r enillwyr: y prentisiaid gwych sydd wedi gweithio mor galed; y cyflogwyr sy'n buddsoddi yn eu staff, yn tyfu ac yn datblygu talent; a'r hyfforddwyr, aseswyr, athrawon talentog a gweithgar o bob rhan o rwydwaith isgontractwyr CCAF a'r Brifysgol Agored sydd wedi eich cefnogi.


"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod prentisiaethau'n gweithio - i dyfu talent newydd a’r dalent sydd eisoes yn bodoli, i arallgyfeirio gweithluoedd, i bweru busnesau i dyfu ac addasu ac i gefnogi ein cymunedau a'n heconomi. Mater i ni oll yw parhau i hyrwyddo'n angerddol yr effaith maen nhw'n ei chael."


Gellir gweld oriel luniau o'r seremoni wobrwyo yma.


Categori

Enillydd

Cyflogir gan

Cyfrifeg

Lowri Scandrett

BBC

Atgyweirio Corff Moduron

Alois Gano


Cerbydau Modurol Trwm

Mackenzie Macnamara

Adventure Travel

Cerbydau Modurol Ysgafn

Arran Christopher Powell

J&J Motors (Abertawe)

Gweinyddu Busnes

Tungamirai Kujinga

Deloitte

Adeiladu

Kelly Coulson

Persimmon Homes

Diwydiannau Creadigol

Will Hougham

Real SFX

Electrodechnegol

Ben Gillin

Lloyd Morris Electrical Ltd

Gwasanaethau Argyfwng, Tân ac Achub

Adrian Rees-Owens

Gorsaf Dân Merthyr, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Peirianneg

Olivia Joyce

General Dynamics


Hannah Beddoes

Dow

Gwasanaethau Ariannol

Jade Brown

Grŵp Bancio Lloyds

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Westley Nash

Gofal Iechyd Perfect Pet

Gwresogi ac awyru

Irfan Maruf

CMB Engineering

TG

Dong Yang Sun

Deloitte

Newyddiaduriaeth

Eleri Griffiths

BBC

Rheolaeth

Hugh Carter

Byddin yr Iachawdwriaeth

Plymio

Dean Reynolds

BT Morgan

Rheweiddio ac Aerdymheru

Liam Bush

Gwasanaethau Snap

Chwaraeon

Dylan Lawler

CCFC

Rheoli Adnoddau Cynaliadwy

Joseph Palmer

Rheoli Gwastraff Cyngor Caerdydd

Prentis Iau

Kyle Davin

Love Your Car

Prentis Uwch

Catrin Thomas

Arweinydd Tîm yr Uned Gofal Cwsmer yn yr AA


Jason Dickson

Cyfarwyddwr Ansawdd, Hyfforddiant a Datblygu yn NPORS

Gwobr Gymraeg

Morgan Parry

Sgil Cymru

Model Rôl

Emily Crawley

Deloitte


Alyn Udy

EMIS

Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith

Steve Traylor

CCAF


Nadine Roberts

Sgil Cymru

Cyflogwr y Flwyddyn

Arcadis – Cynghrair Prentisiaethau Cymru






Deloitte



Byddin yr Iachawdwriaeth



Gwasanaethau Snap


Prentis y Flwyddyn

Lowri Scandrett

BBC


Will Hougham

Real SXF