Yr wybodaeth ddiweddaraf am Gampws CAVC

18 Ion 2023

Yn ystod eira, tywydd garw a digwyddiadau annisgwyl eraill ein nod yw cadw safleoedd ar agor a tharfu cyn lleied â phosibl ar ein myfyrwyr. Fodd bynnag, mae iechyd a diogelwch staff, myfyrwyr a'r cyhoedd yn hanfodol a bydd safleoedd yn cael eu cau os teimlir bod safle, neu deithio i safle, yn rhy beryglus.
Caiff y dudalen yma ei diweddaru'n ddyddiol yn ystod tywydd garw. Rydym yn diweddaru'r dudalen yma cyn gynted ag y gwneir unrhyw benderfyniadau ynghylch cau safleoedd. Os bydd eira/tywydd garw dros nos, byddwn yn ceisio diweddaru'r dudalen yma cyn gynted â phosibl ac erbyn 7.30am. Cadwch lygad ar y dudalen yma i gael yr wybodaeth ddiweddaraf neu dilynwch ni ar Twitter @CAVC neu hoffwch ein tudalen Facebook www.facebook.com/cardiffandvalecollege i fod y cyntaf i glywed unrhyw ddiweddariadau.  

 Yr wybodaeth ddiweddaraf am Gampws CAVC 18.01.2023

Diweddarwyd y dudalen yma ddiwethaf am 9:15am

 
Rhagwelir tywydd garw dros y dyddiau nesaf. Ar hyn o bryd, mae pob un o'n safleoedd yn agored ar gyfer busnes fel arfer heddiw. Cymerwch ofal ar eich taith i'r coleg ac ar safleoedd y coleg, yn enwedig ar lwybrau ac mewn meysydd parcio.

Campysau

Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, gan gynnwys prif adeilad y Ganolfan Fodurol, y Ganolfan Adeiladu [CCTC], y Ganolfan Gwasanaethau Adeiladu [DR2] ac Un Canal Parade – Ar agor fel arfer/Ar gau

Y Dosbarth - Campws Canol y Ddinas – Ar agor fel arfer/Ar gau
Urbasba - Campws Canol y Ddinas – Ar agor fel arfer/Ar gau
REACH+ - Campws Canol y Ddinas – Ar agor fel arfer/Ar gau
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd – Ar agor fel arfer/Ar gau
Campws Cymunedol y Dwyrain – Ar agor fel arfer/Ar gau
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd - Ar agor fel arfer/Ar gau  

Bro Morgannwg

Campws y Barri [Heol Colcot] – Ar agor fel arfer/Ar gau Ystafell Morgannwg - Campws y Barri – Ar agor fel arfer/Ar gau
academi urbasba - Campws y Barri – Ar agor fel arfer/Ar gau
Y Ganolfan Hyfforddiant Awyrofod Ryngwladol [ICAT] – Ar agor fel arfer/Ar gau

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
Os bydd tywydd garw yn cau campws CAVC lle cynhelir eich dosbarthiadau fel arfer, byddwch yn dal i gael eich taliad LCA ar gyfer yr wythnos honno. Sylwch, fodd bynnag, os yw eich campws ar agor a bod trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i redeg, rhaid i chi fynychu pob gwers ar yr amserlen fel arfer er mwyn cael eich taliad LCA neu GDLlC.