Ymgynghorydd Datblygu Busnes

Chris Duffy

Ymgynghorydd datblygu busnes profiadol yn y Tîm Gwasanaethau Masnachol. Mae Chris yn gweithio'n ymgynghorol gyda sefydliadau o bob maint i adnabod anghenion hyfforddi ac mae'n sicrhau bod y datrysiadau a ddarperir gan y Coleg yn cyflawni effaith bositif. Mae gan Chris wybodaeth eang am y sectorau Lletygarwch a Diwydiannau Creadigol.

Mwy am Chris

Mae gan Chris enw da am ddatblygu partneriaethau ac yn ddiweddar mae wedi gweithio'n agos gyda'r BBC i sefydlu'r bartneriaeth gydweithredol ffurfiol gyntaf erioed rhwng y BBC a Choleg Caerdydd a'r Fro. Gyda chefndir mewn cysylltiadau cyhoeddus/marchnata llawrydd a nawdd, mae Chris yn weithiwr creadigol yn ei rôl yn y Coleg ac mae wedi defnyddio'i brofiad i greu digwyddiadau arloesol niferus yn y Coleg sydd wedi ychwanegu gwerth at brofiadau'r myfyrwyr a byd busnes.