Fel rheolwyr mae'r rhan fwyaf o'r pethau rydym yn eu gwneud yn golygu rhyw ffurf ar sgiliau rheoli prosiect; p'un ai yw'n rheoli newid, cynllunio prosesau neu weithdrefnau newydd, adeiladu a datblygu timau neu dim ond yn cynllunio i gyflawni amcanion yn y gweithle.
Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i'r prif sgiliau rheoli prosiect sy'n ofynnol ar gyfer llwyddiant.
Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi gyflwyno eich cais!
Bydd y cwrs hwn yn cael ei ddarparu ar y safle yn ein Campws Canol y ddinas o 9:30am - 4:00pm.
Yn y cwrs rhyngweithiol hwn byddwn yn archwilio:
Ffi Cwrs: £110.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Mae'n rhaid talu Ffïoedd y Cwrs cyn ymrestru. Mae'n ofynnol eich bod yn:- Gallu mynychu'r diwrnod cyfan - Bodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau eu gyrfa Rheoli, neu ei datblygu .
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.