Mae arweinyddiaeth effeithiol yn hanfodol yn y gweithle.
Hebddi, sut allwn ni benderfynu pa gyfeiriad i fynd a pha lwybr i gyrraedd yno?
Bwriad y cwrs hwn yw gwella eich galluoedd a'ch nodweddion arweinyddiaeth tra'n darparu mewnwelediadau i ansawdd arweinwyr llwyddiannus yn ôl safonau modern.
Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi gyflwyno eich cais!
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu ar y safle yn ein Campws Canol y Ddinas 9.30am - 4.00pm
Byddwn yn mynd i'r afael â:
• Arweinyddiaeth a rheolaeth a'r gwahaniaethau rhyngddynt
• Sgiliau a galluoedd allweddol arweinwyr da
• Arweinyddiaeth a gweledigaeth
• Cyfathrebu a gosod ffocws a chyfeiriad clir
• Ysgogi, dirprwyo, grymuso ac adeiladu hyder
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £110.00
Mae'n rhaid talu Ffïoedd y Cwrs cyn ymrestru. Mae'n ofynnol eich bod yn:
- Gallu mynychu'r diwrnod cyfan
- Bodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau eu gyrfa Rheoli, neu ei datblygu .
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.