Mae natur arwain a rheoli yn dod mewn amryw ffurfiau, ond mae angen myfyrio dyfnach i ddeall yn llwyr sut i fod yn Arweinydd Effeithiol.
Yn ystod y cwrs undydd hwn, cewch y cyfle i ystyried arddulliau arwain a chymhwyso’r rhain i’ch gweithle chi. Bydd ein hyfforddwyr yn eich cefnogi i gynhyrchu cynllun gweithredu effeithiol ar gyfer eich datblygiad chi a’ch gweithle - gan sicrhau bod y wybodaeth a’r cipolygon a enillwyd yn cael eu trosglwyddo i’ch bywyd gwaith dyddiol.
Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Caiff y cwrs undydd hwn ei gyflwyno ar safle yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am – 4.30pm.
Yn ystod y diwrnod, byddwch yn magu dealltwriaeth am y meysydd canlynol:
Cewch y cyfle i gymhwyso’r uchod i gyd i’ch gweithle chi, gan greu cynllun gweithredu ar gyfer eich datblygiad personol chi dan arweiniad ac arbenigedd ein hyfforddwyr.
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £40.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.