Cyllid ar gyfer Rheolwyr nad ydynt yn rheolwyr cyllid

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i 'iaith cyllid' ac yn esbonio Ddtganiadau Ariannol, gan gynnwys Elw a Cholled, y Fantolen a Datganiad Llif Arian, gan gynnwys egluro terminoleg.

Caiff hyn ei ehangu wedyn i reoli costau drwy archwilio math o gostau ac ymddygiad. Mae hyn yn darparu sylfaen ar gyfer archwilio cyllidebu sylfaenol a delio ag amrywiannau.

Yn olaf, cyflwyniad i ddehongliad sylfaenol o Ddatganiadau Ariannol, mae hyn yn cynnwys Elw Gros, Elw Net, pa mor hir y mae ein cwsmeriaid yn ei gymryd i'n talu, pa mor hir yr ydym yn ei gymryd i dalu cyflenwyr a pha mor hir yr ydym yn cadw stoc ac ati.

Diddordeb? Agorwch yr is-bennawd isod i gael rhagor o wybodaeth cyn i chi wneud cais!  

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein trwy Microsoft Teams rhwng 9.30am a 1pm.  

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSVFFNFM
L2

Cymhwyster

Finance for non-financial Managers

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).