Sut i Feithrin Timau sy’n Perfformio’n Dda

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae timau sy’n perfformio’n dda yn esgor ar ganlyniadau mewn ffyrdd eithriadol ac mae ganddynt ffordd o weithio’n reddfol gyda’i gilydd er mwyn cyrraedd nod cyffredin. Uwchlaw pob dim, mae timau sy’n perfformio’n dda yn meddu ar Ysbryd Tîm. Bydd y cwrs undydd hwn yn archwilio’r sgiliau arwain sy’n angenrheidiol i feithrin tîm cryf yn y gweithle. 

Diddordeb?  Agorwch yr is-bennawd isod i gael rhagor o wybodaeth cyn ymgeisio! 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyflwynir y cwrs hwn yng Nghampws Canol y Ddinas, 9.30am – 4pm. 

Ar y cwrs hwn, byddwn yn treiddio i’r canlynol: 

  • Pa mor bwysig yw cael cydbwysedd iawn o ran sgiliau, agweddau, ymddygiadau a phersonoliaethau er mwyn creu tîm effeithiol 
  • Sut i ddeall cryfderau a gwendidau timau 
  • Sut i ddefnyddio a lliniaru mewn sefyllfaoedd unigol a sefyllfaoedd tîm 
  • Y camau sy’n perthyn i ddatblygu tîm 
  • Rolau tîm a chymorth 

Gan fyfyrio ar fodelau hunanymwybyddiaeth, rolau tîm Belbin ac agweddau ar nodweddion personoliaeth DiSC, bydd modd inni ddeall aelodau ein tîm yn well a’r modd y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu tîm sy’n perfformio’n dda. 

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £110.00

Gofynion mynediad

Mae'n rhaid i Ffïoedd y Cwrs gael eu talu cyn cofrestru. Unwaith y bydd eich cais wedi dod i law, anfonir dolen atoch ar sut i brosesu eich taliad. Mae'n rhaid i chi:  

  • Fod yn gallu mynychu'r diwrnod cyfan  
  • Bod yn fodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol  

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhywun sy'n awyddus i ddechrau eu gyrfa Reoli neu symud eu gyrfa Reoli yn ei blaen.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

1 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CS1HTP
L2

Cymhwyster

How to Build High Performing Teams

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE