Cyflwyniad i Hyfforddi a Mentora

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni am ddyddiadau
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae buddion di-rif i hyfforddi mewn gweithle a bydd y sesiwn undydd hon yn eich helpu i ystyried sut allai diwylliant hyfforddi effeithiol gefnogi ac annog eich sefydliad i berfformio ar ei safon orau bosibl! 

P’un a ydych yn cefnogi eraill drwy reolaeth linell neu drwy gyfrwng cymorth un-i-un, mae’r cyflwyniad safon uchel hwn yn addas i bawb a bydd yn eich helpu i feithrin eich sgiliau hyfforddi personol.

Erbyn diwedd y dydd, byddwch wedi cael cipolwg ar y sgiliau angenrheidiol i hyfforddi eraill yn effeithiol drwy wrando a chwestiynu. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i rai o’r adnoddau a ddefnyddir mewn hyfforddi, yn ogystal â modelau hyfforddi a allant gael eu defnyddio yn eich gweithle. 

Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno ar safle yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4pm.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn cael cyflwyniad ar egwyddorion hyfforddi a mentora gyda phwyslais ar y canlynol:

  • Amlinellu buddion Hyfforddi o fewn y gweithle
  • Ystyried y sgiliau a’r rhinweddau angenrheidiol i hyfforddi effeithiol
  • Datblygu eich dealltwriaeth am arferion gorau
  • Trafod modelau poblogaidd, adnoddau a thechnegau a ddefnyddir gan hyfforddwyr i helpu eu cleientiaid ddatgloi eu potensial, goresgyn rhwystrau a gwneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i roi eich sgiliau newydd ar waith!

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £40.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys am y cwrs hwn os ydych yn:

  • 19 oed neu hŷn
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • yn gallu mynychu’r cwrs ar bob dyddiad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni am ddyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CS1ICM
L2

Cymhwyster

Introduction to Coaching and Mentoring

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE