Dewch yn Arbenigwr Rheoli Pobl yn Strategol gyda Chanolfan Blatinwm CIPD.
Cryfhewch eich annibyniaeth, eich beirniadaeth a’ch gallu strategol i arwain sefydliadau a’u pobl drwy heriau gweithredol cymhleth a thuag at lwyddiant cynaliadwy.
Mae’r cymhwyster ysgogol hwn yn rhoi’r gallu i ddysgwyr feddwl yn arloesol, rhoi cipolygon ar y byd go iawn, ac uwch sgiliau datblygu strategaeth i weithredu ar y lefelau uchaf o reoli pobl.
Mae’r rhaglen gyfwerth ag astudiaeth ôl-raddedig a chaiff ei chwblhau dros 18 mis drwy sesiynau wyneb yn wyneb bob dydd Iau ar y safle yn ein Campws Canol y Ddinas o 2.30pm tan 7.30pm (yn ystod y tymor yn unig).
Cynnwys a Dull Asesu:
I gyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gweithio drwy gyfres o aseiniadau uned a bydd gan bob un dyddiad ac amser cyflwyno penodedig.
Bwriad yr aseiniadau hyn yw eich helpu i fagu hyder a chymhwysedd wrth ddatblygu’r wybodaeth a’r ymddygiad craidd sydd wedi’u nodi yn y Map Proffesiwn CIPD (Lefel Uwch).
Byddwch yn astudio 7 uned:
Ar ôl i chi gwblhau eich aseiniadau, caiff yr holl ganlyniadau eu hadolygu drwy broses Gymedroli swyddogol CIPD. Mae cymedroli’n digwydd yn ystod cyfnodau penodol drwy gydol y flwyddyn, a all ymestyn yr amser mae’n ei gymryd i gael eich cadarnhad terfynol. Ar ôl i’ch canlyniadau gael eu cymeradwyo, mae CIPD ei hun yn anfon ardystiad digidol, fel arfer ymhen pedair i chwe wythnos.
Aelodaeth CIPD:
I astudio’r cymhwyster hwn, bydd angen Aelodaeth CIPD weithredol arnoch am gyfnod llawn y cwrs. Nid yw ffioedd aelodaeth yn cael eu cynnwys ym mhris eich cwrs gan eu bod yn bersonol i chi ac yn gallu cael eu cynnal y tu hwnt i’ch cymhwyster er mwyn parhau i gefnogi eich taith broffesiynol. Mae gwybodaeth am Ffioedd Aelodaeth CIPD i'w chael ar wefan CIPD.
Byddwn yn eich arwain drwy’r broses cofrestru aelodaeth wrth ymrestru er mwyn i chi gael dechrau arni'n ddidrafferth.
Y broses ymgeisio:
Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad Microsoft Teams o bell. Bydd y cyfarfod byr hwn gydag aelod o’r tîm CIPD yn asesu eich addasrwydd ar gyfer y cymhwyster yn unol â chanllawiau CIPD a dyma fydd yn gyfle i chi ddysgu rhagor am strwythur y cwrs.
Ffi Cofrestru: £35.00
Ffi Cwrs: £5,500.00
Gallwch wneud cais am y cwrs hwn os ydych chi: • Yn 19 oed neu'n hŷn • Ddim mewn addysg amser llawn ar hyn o bryd neu wedi cofrestru ar gwrs a ariennir gyda CCAF • Yn gallu darparu tystiolaeth o TGAU Saesneg (A–C) neu gymhwyster cyfatebol/uwch. Os na allwch ddarparu'r dystiolaeth hon, efallai y gofynnir i chi gwblhau tasg ysgrifenedig fer • Yn ddelfrydol, yn meddu ar Dystysgrif Sylfaen CIPD mewn Ymarfer Pobl Lefel 3 a/neu Ddiploma Cysylltiol CIPD Lefel 5 • Yn gweithio ar hyn o bryd mewn rôl ymarfer pobl strategol yn arwain a rheoli pobl ac ymarfer o fewn sefydliad
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.