Sgyrsiau Hyfforddi

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Fel arweinydd, gall cynnal sgyrsiau hyfforddi gyda'ch staff gael effaith sylweddol ar eich tîm, gan eu galluogi i deimlo eu bod wedi'u grymuso, yn cael eu gwerthfawrogi, yn hyderus ac yn gallu canolbwyntio ar eu nodau personol a sefydliadol. Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n angenrheidiol gyda phob sgwrs hyfforddi.

Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi gyflwyno eich cais!  

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas, o 9.30am - 4pm. 

Gall busnesau weld effaith ar berfformiad, mwynhau gweithlu cydweithredol a datblygu diwylliant gwaith positif pan mae eu staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Bydd y sesiwn hwn yn:

  • eich darparu gyda'r technegau i'w defnyddio fel rhan o'ch sgyrsiau gyda staff.
  • archwilio sgiliau craidd hyfforddwr gan gynnwys gwrando a chwestiynu
  • rhoi sylfeini model hyfforddi i chi er mwyn i chi gael y gorau o'ch sgyrsiau hyfforddi.
  • rhoi cyfle i ymarfer eich technegau a'ch sgiliau newydd fel eich bod yn teimlo'n barod i roi eich sgiliau ar waith yn y gweithle.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £110.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CS1CS
L2

Cymhwyster

Coaching Conversations

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE