Sgiliau Rheoli Hanfodol

L2 Lefel 2
Rhan Amser
15 Hydref 2024 — 15 Hydref 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o ennill Sgiliau Rheoli Hanfodol er mwyn helpu i symud eich gyrfa yn ei blaen? Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i sgiliau arweinyddiaeth allweddol ar gyfer llwyddo yn y gweithle.

Diddordeb? Agorwch yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth cyn i chi gyflwyno eich cais! 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein Campws Canol y Ddinas. 

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio natur arweinyddiaeth a dulliau o arwain, byddwn yn cwmpasu cyfathrebu effeithiol o fewn amgylchedd tîm, gan osod ffocws a chyfeiriad eglur, rheoli eich amser eich hun ac amser eich timau yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Bydd dirprwyo a grymuso yn cael eu harchwilio, yn ogystal â'r rhwystrau posib a sut i'w goresgyn er mwyn gwneud y defnydd gorau o'ch pobl fel adnoddau. Bydd mynychwyr yn cael eu hannog i gwblhau cynllun gweithredu ar gyfer eu datblygiad proffesiynol eu hunain ac archwilio ffyrdd o integreiddio'r sgiliau trosglwyddadwy yma o fewn y gweithle.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £110.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Mae'n rhaid i Ffïoedd y Cwrs gael eu talu cyn cofrestru.  

Mae'n rhaid i chi:  

  • Fod yn gallu mynychu'r diwrnod cyfan  
  • Bod yn fodlon cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol  

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhywun sy'n awyddus i ddechrau eu gyrfa Reoli neu symud eu gyrfa Reoli yn ei blaen.  

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

15 Hydref 2024

Dyddiad gorffen

15 Hydref 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CS1EMS
L2

Cymhwyster

Essential Management Skills

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE