Diben y cwrs hwn yw datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r amgylchedd sefydliadol fel sy'n ofynnol gan reolwr canol gweithredol neu ddarpar reolwr canol. Byddwch yn archwilio dadansoddiad o sut mae'r macro-amgylchedd yn effeithio ar sefydliad, effaith ffactorau economaidd a gwleidyddol ar y sefydliad a'r amgylchedd cyfreithiol y mae'r sefydliad yn gweithredu yn unol ag ef.
Diben yr ail uned yw datblygu eich dealltwriaeth a'ch gallu i arwain timau i gyflawni gwerthoedd a nodau sefydliadol. Bydd hyn yn cynnwys deall arddulliau arwain, adolygu effeithiolrwydd eich gallu a'ch perfformiad arwain eich hun ac ysgogi staff i gyflawni gwerthoedd a nodau sefydliadol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Arholiad : £139.00
Ffi Cwrs: £696.00
Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru.
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:
Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM.
Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.