Diben y cwrs hwn yw datblygu eich gallu i feddwl a myfyrio'n feirniadol fel sy'n ofynnol gan ddarpar reolwr neu reolwr canol gweithredol. Byddwch yn dysgu sut i asesu eich credoau, eich agweddau a'ch gwerthoedd eich hun yn feirniadol, ac yn gallu asesu dilysrwydd damcaniaethau rheoli yn feirniadol yng nghyswllt eich credoau, eich agweddau a'ch gwerthoedd eich hun.
Nod yr ail uned yw rhoi dealltwriaeth i chi o'r sgiliau, yr egwyddorion a'r arfer sydd eu hangen ar gyfer hyfforddi neu fentora effeithiol o fewn cyddestun sefydliadol. Mae'r uned hon yn archwilio diben hyfforddi a mentora, yr wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen a phwysigrwydd contractio a rheoli'r broses hyfforddi neu fentora yn effeithiol
Ffi Cwrs: £795.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.