Ydych chi’n awyddus i ddechrau, hybu neu newid eich gyrfa mewn gwasanaethau ariannol?
Wedi’i ariannu’n llawn gan Multiply, mae'r Academi Gwasanaethau Ariannol hon wedi’i dylunio ar y cyd gyda sefydliadau ariannol arweiniol er mwyn darparu’r ystod o sgiliau sydd ei hangen i ddechrau gweithio ym maes gwasanaethau proffesiynol. Yn cyflwyno DiSC, sgiliau Arweinyddiaeth Tîm a sgiliau Cyfweliad
A oes gennych chi ddiddordeb? Cliciwch ar yr is-benawdau isod i ddysgu mwy am gynnwys, darpariaeth a meini prawf cymhwysedd y cwrs!
Darperir y cwrs ar y safle rhwng 6pm a 9pm, 2 noson yr wythnos am 6 wythnos. Yn ogystal, bydd 2 sesiwn dydd Sadwrn a gynhelir rhwng 9:30 a 4pm. Gweler y dyddiadau isod.
Diwrnod 1: Dydd Mawrth 18 Chwefror (6pm - 9pm)
Diwrnod 2: Dydd Iau 20 Chwefror (6pm - 9pm)
Diwrnod 3: Dydd Sadwrn 22 Chwefror (9.30am – 4.30pm)
Diwrnod 4: Dydd Mawrth 25 Chwefror (6pm - 9pm)
Diwrnod 5: Dydd Iau 27 Chwefror (6pm - 9pm)
Diwrnod 6: Dydd Mawrth 4 Mawrth (6pm - 9pm)
Diwrnod 7: Dydd Iau 6 Mawrth (6pm - 9pm)
Diwrnod 8: Dydd Mawrth 11 Mawrth (6pm - 9pm)
Diwrnod 9: Dydd Iau 13 Mawrth (6pm - 9pm)
Diwrnod 10: Dydd Mawrth 18 Mawrth (6pm - 9pm)
Diwrnod 11: Dydd Iau 20 Mawrth (6pm - 9pm)
Diwrnod 12: Dydd Sadwrn 22 Mawrth (9.30am - 4.30pm)
Diwrnod 13: Dydd Mawrth 25 Mawrth (6pm-9pm)
Diwrnod 14: Dydd Iau 27 Mawrth (6pm-9pm)
Mae dyddiau hyfforddiant a gweithdai wedi cael eu dylunio i feithrin eich gwybodaeth, hyder a sgiliau sydd ar fryd cyflogwyr o fewn y sector, yn ogystal ag ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant fel Dyfarniadau Arbenigol Microsoft Office yn Excel a Dyfarniadau City & Guild.
[Text Wrapping Break]Unedau Sgiliau Cyflogadwyedd:
Cyfathrebu yn y gweithle
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Sgiliau Cyfweld
Paratoi i arwain tîm
Sgiliau cefnogol eraill
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.