Dylunio a Hwyluso Digwyddiadau Dysgu

L2 Lefel 2
1 Gorffennaf 2025 — 1 Gorffennaf 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs undydd hwn wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol AD ac nad ydynt yn gweithio yn AD sydd â chyfrifoldeb dros ddylunio, paratoi a hwyluso digwyddiadau dysgu sefydliadol. 

Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Ffyrdd mae pobl yn dysgu’n fwyaf effeithiol
  • Strategaethau i wella dysgu sefydliadol
  • Egwyddorion i ddylunio digwyddiadau dysgu llwyddiannus 
  • Technegau a sgiliau hwyluso

Yn ystod y diwrnod llawn hwn, byddwch yn cyfnewid gwybodaeth ac yn dysgu gyda grŵp o weithwyr proffesiynol o’r un anian mewn amgylchedd wyneb yn wyneb. 

Cliciwch ar yr is-benawdau isod i ddysgu rhagor!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4:00pm.

Caiff y diwrnod ei rannu yn 3 rhan allweddol:

1) Pobl a dysgu
2) Dylunio digwyddiad dysgu
3) Hwyluso digwyddiad dysgu mewn grŵp wyneb yn wyneb

Erbyn diwedd y dydd, bydd cyfranogwyr: 

  • Wedi datblygu eu gwybodaeth ynghylch sut mae pobl yn dysgu (gyda chysylltiadau â damcaniaeth ddysgu, seicoleg a niwrowyddoniaeth)
  • Yn gallu adnabod ‘rhwystrau’ dysgu posibl sy’n bodoli yn eu sefydliadau nhw ac wedi ystyried ychydig o strategaethau i oresgyn y ‘rhwystrau’ dysgu hyn
  • Yn deall rhai egwyddorion allweddol o ran dylunio dysgu
  • Yn gallu ysgrifennu nodau, amcanion a deilliannau dysgu effeithiol
  • Yn deall sut i baratoi eu hunain, eu dysgwyr a’r amgylchedd dysgu i sicrhau digwyddiad dysgu llwyddiannus.
  • Wedi cyfnewid ac ymarfer technegau a sgiliau hwyluso effeithiol 
  • Wedi myfyrio ar eu cryfderau hwyluso a meysydd datblygu personol
  • Wedi drafftio cynllun gweithredu i drosglwyddo dysgu a sgiliau yn ôl i'r sefydliad

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru: £10.00

Ffi Cwrs: £35.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych:

  • yn 19+ oed
  • heb fod mewn addysg amser llawn
  • ⁠yn gallu mynychu pob sesiwn
  • yn dymuno siapio ymarfer pobl, gan greu gwerth ar gyfer cynulleidfa enhangach

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Gorffennaf 2025

Dyddiad gorffen

1 Gorffennaf 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSHR2P01
L2

Cymhwyster

CAVC Certificate

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Erbyn diwedd y sesiwn hon, byddwch yn fwy gwybodus a hyderus yn y camau nesaf sydd eu hangen i ddylunio, paratoi a hwyluso digwyddiadau dysgu sefydliadol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE