Mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio ar gyfer darpar arweinwyr a’r rhai sy’n newydd i arweinyddiaeth sy’n dymuno gwella eu sgiliau a datblygu sylfaen o wybodaeth wrth arwain gyda meddylfryd rhifiadol! Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn defnyddio cyfuniad o fewnwelediadau damcaniaethol ac ymarferion ymarferol i archwilio arweinyddiaeth gydag egwyddorion rhifiadol cymhwysol i wella canlyniadau. Bydd bore'r sesiwn yn canolbwyntio arnoch chi fel arweinydd, a’r prynhawn yn canolbwyntio ar reoli pobl.
A oes gennych chi ddiddordeb? Agorwch yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae'r cwrs un diwrnod hwn yn cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb yn ein campws Canol y Ddinas, o 9.30am - 4pm.
Bydd y cwrs hwn yn gwella eich sgiliau a’ch gwybodaeth rhifedd i hybu’r gallu i gael cyflogaeth, uwchsgilio eich galluoedd arwain a rhoi hyder i chi ymgymryd â her newydd yn y gweithle.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:
Deall ac addasu eich dull o arwain, i chi fod yr arweinydd gorau posibl.
Deall damcaniaethau ac arferion arweinyddiaeth
Gallu defnyddio data rhifiadol i wneud penderfyniadau’n effeithiol
Nodi'r cydbwysedd cywir rhwng metrigau meintiol, ansoddol ac effeithlonrwydd.
Cyfathrebu’n effeithiol i osod nodau a chyfeiriad clir i’r tîm.
Deall sut i ddefnyddio technegau cymhellol i ysbrydoli aelodau o’r tîm a chreu diwylliant positif yn y gweithle.
Ariennir y rhaglen hon trwy Lluosi. I fod yn gymwys i gofrestru, rhaid i chi:
Llwythwch eich tystiolaeth i fyny wrth wneud cais gan na fydd ceisiadau'n cael eu prosesu heb y dystiolaeth hon.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.