Wyddoch chi fod 1 mewn 4 o bobl yn y DU yn debygol o brofi problemau iechyd meddwl pob blwyddyn?
Mae cymhwyster Lefel 2 Qualsafe mewn Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o’r arwyddion a symptomau o gyflyrau iechyd meddwl cyffredin a sut i fynd ati i gynnig cymorth o fewn y gweithle.
Diddordeb? Agorwch yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4pm.
Pynciau yr ymdrinnir â nhw:
Deall iechyd meddwl a’i bwysigrwydd
Adnabod swyddogaethau a chyfrifoldebau y sawl sy’n gysylltiedig â iechyd meddwl yn y gweithle
Deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â iechyd meddwl yn y gweithle
Hyrwyddo iechyd meddwl positif o fewn y gweithle
Cyflyrau iechyd meddwl cyffredin
Adnabod y prif nodweddion o fewn cynllun gweithredu cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gwaith a thechnegau gwrando
Asesu:
I lwyddo i gael y cymhwyster, byddwch yn cwblhau asesiad ar ddiwedd y diwrnod. Mae'r cymhwyster hwn yn ddilys am 3 blynedd.
Ariennir y rhaglen hon trwy Lluosi. I fod yn gymwys i gofrestru, rhaid i chi:
- Fod yn 19 oed neu drosodd
- Gallu darparu tystiolaeth eich bod yn gweithio a/byw yng Nghaerdydd a'r Fro ar hyn o bryd e.e. ID, Mesur Cyfleustodau, Contract Cyflogaeth gyda chyfeiriad llawn wedi'i nodi'n glir
- Byddwch yn ymroddedig i fynychu'r sesiwn cyfan
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.