Hyfforddwr Dysgu a Datblygu

Jay Dupre

Fel Hyfforddwr Dysgu a Datblygu, mae Jay yn datblygu ac yn cyflwyno ystod o gyrsiau pwrpasol i ddiwallu anghenion sefydliadau amrywiol. Mae'r cyrsiau hyn yn gymysgedd o gyrsiau achrededig a heb eu hachredu, yn unol â'r galw.

Mwy am Jay

Mae Jay wedi datblygu angerdd am ddysgu a datblygu, dros nifer o flynyddoedd, ac mae'n defnyddio ei daith i annog ac ysgogi eraill i ystyried meithrin eu datblygiad eu hunain. Drwy ddefnyddio ei brofiadau ei hun, mae Jay yn ceisio uniaethu ag anghenion a chymhellion eraill, a'u helpu i nodi atebion a chyfleoedd ar gyfer datblygu ar bob lefel. Mae gan Jay brofiad helaeth ac amrywiol sy’n cynnwys adroddiadau, addysgu ac asesu, mentora a dysgu, a datblygu ac mae’n ceisio defnyddio’r wybodaeth hon i helpu eraill i lunio eu taith eu hunain.