Creu Academi Hyfforddi gyda Persimmon

Mae CAVC wedi gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Persimmon Homes i greu menter Academi Hyfforddi newydd i fynd i’r afael â phrinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu sy’n tyfu yn ne Cymru. Gyda’r Fargen Ddinesig sydd i ddod, bydd 40,000 o gartrefi newydd ychwanegol yn cael eu hadeiladu yn y Brifddinas-Ranbarth yn unig, ac roedd Persimmon eisiau achub y blaen ar unrhyw brinder sgiliau drwy wneud yn siŵr bod ganddo weithlu yn ei le eisoes. Bydd Academi Hyfforddi Persimmon Homes PLC yn galluogi un o’r cwmnïau adeiladu tai mwyaf yn y DU i feithrin ei dalent ei hun – gan recriwtio ar gyfer ei raglen prentisiaeth a gwella sgiliau ei staff presennol.

Dros y 3 blynedd nesaf, rhagwelir y bydd dros 75 o brentisiaethau ar gael, a fydd yn creu cyfleoedd dilyniant ardderchog i ddysgwyr CAVC.

Meddai Nigel James a Mike Morgan, Meistri Prentisiaid yn Persimmon Homes: “Rydyn ni’n falch ein bod ni’n cynyddu ein darpariaeth brentisiaeth yn sylweddol yn 2019. Roedden ni eisiau bod ar flaen y gad fel cwmni adeiladu tai mawr a gweithio gyda choleg blaenllaw yn ne Cymru, felly CAVC oedd y dewis amlwg. Wrth fabwysiadu meddylfryd ‘hyfforddi i gadw’, fe wnaethon ni ddewis cynnig prentisiaethau ar gyfer diogelwch swyddi, gan ddangos ymrwymiad Persimmon i grefftwyr y dyfodol, yn ddynion neu’n ferched, a rhoi cyfle i bawb ddatblygu gyrfa yn y diwydiant adeiladu.”

Meddai Ian Cowell, Deon Technoleg a Diwydiannau Creadigol Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni’n falch iawn o gael gweithio gyda Persimmon – cwmni sy’n croesawu hyfforddiant fel elfen gadarnhaol mewn twf busnes. Mae’r diwydiant adeiladu yn ne Cymru yn ffynnu a gall cwmnïau adeiladu tai ei chael hi’n anodd llenwi’r nifer cynyddol o swyddi gwag, felly mae gweithio mewn partneriaeth â Persimmon a CITB i fynd i’r afael â hyn yn cyd-fynd yn berffaith ag ymrwymiad y Coleg i weithio ar ran a gyda chymunedau ac economi’r rhanbarth.”

Caiff prentisiaethau eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.


Mewn partneriaeth â 

Laura MacKenzie
Arweinydd Cyfrif Allweddol
029 20 250 350
Tîm Prentisiaethau

Dilynwch Ni

LinkedIn    twitter icon