Byrddau Cyflogwyr CAVC

Ffordd arloesol o gysylltu â Chyflogwyr...

Mae Byrddau Cynghori Cyflogwyr CCAF yn darparu ffordd arloesol i CCAF gysylltu â’r cyflogwyr rydym yn gweithio gyda nhw. Mae’r paneli trafod hyn, sy’n gweithredu ar draws Llywodraeth Cymru a Sectorau Blaenoriaeth y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn ein galluogi i gynnal data amser real am anghenion sgiliau a gweithlu’r rhanbarth, sy’n cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ein cwricwlwm. Maent hefyd yn darparu fforwm effeithiol i archwilio a datblygu partneriaethau a syniadau arloesol. 

Mae ein Byrddau Cynghori Cyflogwyr yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r nod o gyflawni’r canlynol: 

Rhoi cipolwg cyffredin i’r coleg ac aelodau eraill y bwrdd ar y gweithlu a’r prinder sgiliau. Mae hyn yn darparu gwybodaeth gyfoethog am y farchnad lafur sy’n cael ei defnyddio’n systematig i ddatblygu ein darpariaeth gwricwlaidd 
Darparu seinfwrdd ar gyfer darpariaeth hyfforddiant arfaethedig Coleg Caerdydd a’r Fro, gan hwyluso’r cyfle i gyflogwyr ddylanwadu ar y cyrsiau hyn i ddiwallu eu hanghenion yn y tymor byr, canolig a hir
Darparu ffyrdd agored o gyfathrebu â chyflogwyr lle gall y cyflogwr gynnig profiad gwaith neu gyfleoedd cyfoethogi i ddysgwyr cyfredol, ac y gall y coleg gefnogi’r cyflogwr i lunio cynllun recriwtio 
Dangos i gyflogwyr bod gan y coleg ymrwymiad hirdymor i wrando ar eu hanghenion a throsglwyddo ein gwasanaeth i gefnogi’r datblygiad a’r ddarpariaeth sy’n cael ei harwain gan alw 
Cefnogi datblygiad rhanbarthol y sector perthnasol, cynyddu cynhyrchiant, a meithrin y gwaith o ddatblygu talent cartref. 
Mae ein Byrddau Cyflogwyr yn gweithredu ar draws ystod o sectorau gan gynnwys: Arlwyo, Lletygarwch a Thwristiaeth, Diwydiannau Creadigol, Adeiladu, Peirianneg, Gwasanaethau Ariannol, Gwasanaethau Cyfreithiol ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gynrychiolir gan 50 o wahanol fusnesau. 

Os hoffech fwy o wybodaeth am Leoliadau Gwaith neu sut i fod yn rhan o Fwrdd Cyflogwyr, cysylltwch â ni 

Arweinydd Tîm Cyflogaeth a Chyfoethogi

Leanne Waring
Rheolwr Datblygu Busnes
029 20 250 350

Dilynwch Ni

LinkedIn    twitter icon