Mae’r coleg yn rhoi llawer o bwyslais ar ddefnyddio Gwybodaeth am y Farchnad Lafur (LMI) fel rhan o broses cynllunio’r cwricwlwm. Rydym yn defnyddio LMI i lywio ein cwricwlwm (cynllunio a datblygu) ac i sicrhau bod ein darpariaeth yn diwallu anghenion unigolion, cyflogwyr ac economi Cymru. Ers dechrau blwyddyn academaidd 2015/16, mae CCAF wedi cychwyn ar daith sylweddol ac effeithiol iawn i sicrhau bod Gwybodaeth am y Farchnad Lafur:
Yn cael ei hymgorffori yn ein proses o gynllunio’r cwricwlwm
Yn cael ei defnyddio gan staff i lywio’r ddarpariaeth
Yn ymateb i ddiwallu anghenion y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol a chyflogwyr i greu cyfleoedd i’n dysgwyr.
Mae defnyddio LMI yn ganolog i gam cyntaf y broses cynllunio’r cwricwlwm a llunio cynllun cwricwlwm cynhwysfawr, sy’n ymateb i anghenion rhanbarthol. Mae’r broses Cynllunio’r Cwricwlwm a Busnes yn neilltuo cyfrifoldeb clir ar lefel Deon i sicrhau bod Gwybodaeth am y Farchnad Lafur yn cael ei defnyddio’n effeithiol ac yn cael ei llunio gan unigolion penodedig yn nhîm Busnes CCAF. Mae’r tîm yn gyfrifol am lunio adroddiad ciplun ar y sector blaenoriaeth (blaenoriaethau Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru), sy’n cynnwys cip ar ddatblygiadau allweddol yn y rhanbarth. Ym mis Hydref 2017, cyfunodd y tîm yr wybodaeth hon i adroddiad cynllunio’r cwricwlwm o ansawdd uchel sy’n cynnwys gwybodaeth feintiol ac ansoddol a chraffter manwl drwy wybodaeth gynhwysfawr wedi’i hechdynnu o Emsi, rhagolwg llafur yn y dyfodol, datblygiadau rhanbarthol ac sy’n tynnu sylw at feysydd/argymhellion blaenoriaeth o’r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol.
Mae ein hagwedd at gynllunio’r cwricwlwm yn sicrhau bod CCAF yn ymateb i anghenion rhanbarthol a chyflogwyr ac yn cyflwyno cwricwlwm sy’n diwallu’r angen hwn ac yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i ddysgwyr sicrhau dilyniant i gyflogaeth neu ddysgu pellach.
Mae dilyniant dysgwyr i ddysgu pellach, Prentisiaethau, Addysg Uwch neu Gyflogaeth yn dilyn yr agwedd newydd hon, yn rhagorol. Yn 2017/18, aeth 89% o ddysgwyr ymlaen i gyrchfan gadarnhaol, gyda 60% o ddysgwyr lefel 3 yn symud ymlaen i addysg uwch.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth