Kyle o Goleg Caerdydd a’r Fro ar ei ffordd i’r Gemau Olympaidd Sgiliau

7 Mai 2019

Mae myfyriwr a raddiodd yn ddiweddar o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi cael ei ddewis ar gyfer Tîm y DU yn rowndiau terfynol WorldSkills yn Kazan, Rwsia, ym mis Awst 2019.

Llwyddodd Kyle Woodward i gwblhau cwrs Seiber Ddiogelwch yn y Coleg y llynedd a bellach mae’n astudio Seiber Ddiogelwch Cymhwysol ym Mhrifysgol De Cymru. Cafodd ei ddewis ar gyfer Tîm y DU ar ôl cyfres heriol o brofion a chystadlaethau ym Mhrifysgol Middlesex.

Yn cael ei hadnabod fel ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’, mae Cystadleuaeth WorldSkills yn cynnwys myfyrwyr a phrentisiaid gorau’r byd yn brwydro am fedalau aur, arian ac efydd yn y sgil o’u dewis. Ar hyn o bryd mae’r DU yn ddegfed yn safleoedd WorldSkills ar ôl ei llwyddiant yn ennill medalau yng nghystadleuaeth ddiwethaf WorldSkills yn Abu Dhabi yn 2017.

Gwahoddwyd Kyle Woodward i gystadlu am le yn Nhîm y DU ar gyfer WorldSkills Kazan 2019 ar ôl rhagori yng Nghystadlaethau Cenedlaethol WorldSkills. Bydd yn ymuno â phrentis Gosodiadau Trydan CAVC, Tom Lewis, a gafodd ei ddewis ar gyfer Tîm y DU yn gynharach yn ystod y flwyddyn.

“Mae’n deimlad anhygoel cael fy newis i gynrychioli’r DU yn rowndiau terfynol WorldSkills,” dywedodd Kyle. “Fe gefais i dipyn o sioc oherwydd rydw i wedi dod yn bell iawn ers dechrau yn y Coleg.


“Roeddwn i’n ddysgwr ar lefel eithaf isel yn yr ysgol uwchradd ond pan wnes i ddechrau yn y Coleg fe wnaeth fy nhiwtor i, Peter Franklin, fy ngwthio i ac fe newidiodd hynny bopeth. Rydw i wedi mynd o fod ar lefel isel i gael graddau perffaith bron a nawr rydw i’n mynd i rowndiau terfynol WorldSkills – mae hynny jyst yn hollol anhygoel.”

Mae Kyle yn cyfaddef ei fod yn teimlo braidd yn nerfus pan wnaeth ef a dysgwr arall o CAVC, Mateusz Kolacki, ddechrau cymryd rhan yn y gystadleuaeth ddewis. “Roeddwn i’n nerfus iawn yr wythnos cyn y gystadleuaeth a chyn i mi fynd i mewn oedd y gwaethaf. Ond, ar ôl eistedd i lawr a dechrau arni, mae’r nerfau’n diflannu ac rydych chi’n gwybod bod rhaid i chi roi eich pen i lawr a gweithio,” esboniodd.

Mae’n edrych ymlaen at ei drip i Rwsia yr haf yma.

“Dim ond ddwywaith o’r blaen ydw i wedi bod dramor ond gyda’r teulu oedd hynny, nid ar ben fy hun,” dywedodd Kyle. “Mae gweld y diwylliant a chael cystadlu yn erbyn pobl eraill yn rhyngwladol yn mynd i fod yn anhygoel – a bydd yn gyfle da i wneud dipyn o rwydweithio hefyd.”

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau mawr i Kyle am sicrhau lle yn Nhîm y DU ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills a fydd yn cael eu cynnal yn Rwsia eleni – bydd yn gyfle gwych a does dim llawer o bobl ifanc yn cael y profiad yma.

“Mae’n gyflawniad mor nodedig. Mae Kyle wedi disgleirio ar bob lefel yng nghystadlaethau WorldSkills a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru a’i wobr yw cynrychioli’r DU yn y rowndiau terfynol rhyngwladol.
“Hefyd fe hoffwn i ddiolch i’w ddarlithydd, Peter Franklin – mae ei waith caled a’i gefnogaeth i helpu Kyle i gyrraedd safon mor uchel wedi talu ar ei ganfed yn sicr.”