Coleg Caerdydd a'r Fro yn Pride Cymru 2025

26 Meh 2025

Roedd Coleg Caerdydd a'r Fro yn noddwr balch i Pride Cymru y penwythnos diwethaf, gan ymuno â'r dathliad a chodi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb ac amrywiaeth a chefnogi'r gymuned LHDT+.

Fe gymerodd tîm o fwy na 40 o staff a dysgwyr ran yn yr Orymdaith drwy strydoedd Caerdydd ar ran CCAF, gan ddathlu 40 mlynedd ers i'r orymdaith gyntaf ddigwydd yn y brifddinas. Roedd gan y Coleg stondin ym marchnad Pride dros y penwythnos hefyd, gan ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae CCAF wrth galon un o'r cymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru ac eleni, symudodd o'r 3ydd i'r 2il safle ym Mynegai 100 Cyflogwr Cynhwysol 2024 nodedig y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth. Derbyniodd y Coleg hefyd Wobr y Ganolfan ar gyfer Darparwr Addysg Bellach (AB) y Flwyddyn. Mae'r cyflawniadau'n adlewyrchu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y Coleg i ymgorffori Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE), a CCAF yw’r unig sefydliad Addysg AB o Gymru yn y 10 Uchaf.

Wrth i benwythnos Pride Cymru ddechrau, roedd Pennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James-Evans, ar y rhestr Pinc eleni o bobl LHDT+ mwyaf dylanwadol Cymru.

"Rydw i wrth fy modd o fod ar y Rhestr Pinc eleni - mae mor hanfodol ein bod ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant," meddai Sharon. "A dyna pam mae Pride Cymru mor bwysig.

"Mae'n ymwneud â bod eisiau bod yn rhan o gymdeithas amlddiwylliannol a chwbl gynhwysol a chreu byd lle gall pawb fyw yn rhydd - ac yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro rydyn ni eisiau bod wrth galon hynny."