Cymorth ariannol a chyngor ynghylch hyfforddiant i’ch galluogi i dyfu eich busnes bach.

Gallwch gael £2k tuag at eich ymgyrch recriwtio nesaf ynghyd â chyngor ac arweiniad ynghylch hyfforddiant sydd wedi'i deilwra’n arbennig fel y gallwch barhau i ddatblygu sgiliau.

Cymhelliant bach a allai wneud gwahaniaeth mawr i'ch busnes.
Ydych chi'n recriwtio gweithiwr newydd? 
Ydy eich busnes wedi’i leoli ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, neu Dorfaen, a Bro Morgannwg?
Eisiau cymorth ariannol i helpu i roi hwb i'w cyflog neu sicrhau'r person cywir? Wedi'i ariannu ar y cyd gan Brifddinas Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Recriwtio a Hyfforddi yn cynnig cyfle i unrhyw fusnes sy'n bodloni'r meini prawf canlynol dderbyn arweiniad arbenigol gwerth £2k YNGHYD AG arweiniad arbenigol ynghylch hyfforddiant a datblygiad parhaus.
Gall busnesau wneud cais am hyd at 5 x £2k ar gyfer hyd at 5 apwyntiad.

Meini Prawf Cymhwysedd:

  • Busnes bach yn y sector preifat sy’n cyflogi llai na 50 o weithwyr ac wedi’i leoli yn un o awdurdodau lleol de-ddwyrain Cymru ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd Rhondda Cynon Taf, Torfaen neu Fro Morgannwg)
  • Recriwtio i swydd newydd neu swydd wag, heb gynnwys sydd wedi codi oherwydd salwch, mamolaeth neu i lenwi rôl lle bu diswyddiad yn ddiweddar.
  • Recriwtio gweithiwr newydd sy'n 18 oed neu'n hŷn.
  • Rhaid i'r rôl fod ar gontract llawn amser am o leiaf 12 mis, o leiaf 30 awr yr wythnos ac yn talu'r isafswm Cyflog Byw Gwirioneddol (o leiaf £12 yr awr).
  • Recriwtio ar gyfer rolau sero net / gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch neu rolau digidol.
  • Ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall ar gyfer recriwtio i'r swydd hon ac ni fedrir gwneud cais am gymorth ôl-weithredol ar gyfer unigolion a gyflogwyd yn ddiweddar

Cofrestrwch eich diddordeb nawr
Cofrestrwch eich diddordeb isod a bydd ein tîm cymwynasgar yn cysylltu gyda phecyn cais a manylion pellach. Ni fyddwn yn gofyn i chi ddarparu tomen o wybodaeth, dim ond ychydig o fanylion am eich cwmni a'r Disgrifiad Swydd ar gyfer y rôl/rolau rydych yn bwriadu recriwtio iddi/iddynt.

Ar gyfer swyddi a lenwyd rhwng 01 Hydref 2024 i 01 Chwefror 2025.

.