Datblygu Eraill

Mae datblygu eraill yn eich busnes drwy hyfforddi, mentora, addysgu a hyfforddi'n ffordd hanfodol o ddiogelu dyfodol eich busnes. Nod ein cyrsiau Datblygu Eraill yw helpu i'ch arwain chi drwy'r technegau perthnasol.

Datblygu Eraill

Un o'r ffyrdd gorau o wella ymgysylltu a chadw cyflogeion yw drwy wella boddhad a chyfleoedd datblygu. Bydd Rheolwyr ac Arweinwyr sy'n gallu hyfforddi a mentora eu timau'n gweld gwelliant mewn perfformiad a'r gyfradd gadw, sy'n sicrhau gwell dyfodol i'w busnes.  Mae ein cyrsiau Datblygu Eraill wedi'u cynllunio'n benodol i roi i chi'r adnoddau a'r hyder i drosglwyddo eich gwybodaeth a'ch profiad i genedlaethau'r dyfodol yn eich busnes.

Gall CAVC ar gyfer Busnes gynnig Hyfforddiant a Mentora i Swyddogion Gweithredol ac Uwch-arweinwyr ar sail un i un. Mae ein tîm yn hyfforddwyr profiadol sydd â Thystysgrif ILM Lefel 7 ar gyfer Hyfforddwyr a Mentoriaid Lefel Gweithredol ac Uwch. 
Gall ein hyfforddiant un i un gynorthwyo eich busnes i ddatblygu pobl sy’n perfformio i safon uchel, a fydd wedyn yn eich helpu i feithrin a datblygu talent yn eich sefydliad.  
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni yn business@cavc.ac.uk.

Rhestr o Gyrsiau

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Addysg a Hyfforddiant L3 Rhan Amser 28 Ionawr 2025 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Llenwch eich manylion isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan
Hoffwn gael gwybodaeth yn y dyfodol am gynnyrch a gwasanaethau hyfforddi CAVC