Mae darparu gwybodaeth a hyfforddiant yn helpu i ddatblygu diwylliant iechyd a diogelwch positif lle mae gweithio'n gyfrifol yn dod yn ail natur i bawb. Mae hefyd yn helpu i gyfrannu tuag at fodloni eich dyletswydd gyfreithiol er mwyn gwarchod iechyd a diogelwch cyflogeion. Bydd hyfforddiant effeithiol yn cyfrannu tuag at wneud cyflogeion yn fedrus mewn iechyd a diogelwch a gall helpu i osgoi'r gofid a'r goblygiadau ariannol mae damweiniau a pheryglon galwedigaethol a salwch yn eu hachosi i unrhyw fusnes a'i bobl. Mae ein cyrsiau iechyd a diogelwch yn cael eu hachredu gan gyrff proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys NEBOSH, HABC a CIEH
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith | L2 Rhan Amser | 2 Rhagfyr 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle | L2 Rhan Amser | 11 Rhagfyr 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |