Hyfforddwr Datblygu Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Steve Davis

Gweithiwr proffesiynol profiadol iawn ym maes Arweinyddiaeth a Rheolaeth sydd ag ystod eang o sgiliau wrth ddylunio a chyflwyno rhaglenni Arweinyddiaeth a Rheolaeth achrededig a phwrpasol ar bob lefel. Mae Steve yn angerddol ac yn frwdfrydig dros Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Hyfforddi a Mentora, ac mae'n mwynhau datblygu potensial pobl i'r eithaf.

Mwy am Steve 

Fel Arbenigwr Dysgu a Datblygu, mae Steve wedi dylunio a chyflwyno ystod eang o raglenni Arweinyddiaeth a Rheolaeth sydd wedi'u hachredu gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM). Mae Steve hefyd wedi cyflwyno rhaglenni Rheoli a Gweithio'n Ddiogel sydd wedi'u hachredu gan IOSH ar gyfer cleientiaid ar y safle ac oddi arno. Mae gyrfa Steve hyd yn hyn yn cynnwys amrywiaeth o swyddi rheoli lefel uchel mewn hyfforddiant Gweithgynhyrchu, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, yn ogystal ag Adnoddau Dynol.