Cymerwch y cam cyntaf ar eich taith tuag at yrfa lwyddiannus mewn Adnoddau Dynol
Os ydych chi’n angerddol dros Reoli Pobl neu Ddysgu a Datblygu Sefydliadol, ac yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa, yna gall cwblhau cwrs CIPD gyda Choleg Caerdydd a’r Fro eich helpu i gyflawni eich nodau personol a meithrin y sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ffynnu yn y sectorau hyn.
Pam Dewis Ein Cyrsiau CIPD?
· Rhaglenni Achrededig: Mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan y CIPD, sy’n sicrhau eich bod yn derbyn cymhwyster Lefel 3, 5 neu 7 a gydnabyddir yn fyd-eang ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
· Arbenigedd: Mae ein cyrsiau’n cael eu haddysgu gan weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad diwydiant helaeth mewn AD a Dysgu a Datblygu.
· Cymorth i Fyfyrwyr: Byddwch yn elwa o wasanaethau myfyrwyr pwrpasol a mynediad at ein llyfrgell adnoddau gynhwysfawr.
Gwnewch Gais Heddiw!
Cymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa AD foddhaus drwy gofrestru ar ein cyrsiau CIPD a datgloi eich gallu.
| Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
|---|---|---|---|
| CIPD Tystysgrif mewn Ymarfer Pobl | L3 Rhan Amser | 16 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| CIPD Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl | L5 Rhan Amser | 15 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| Diploma Cyswllt CIPD mewn Dysgu a Datblygu Sefydliadol | L5 Rhan Amser | 11 Mawrth 2027 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |
| Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl CIPD - Ar-lein a Dosbarth Rhithiol | L5 Rhan Amser | 14 Medi 2026 | Ar-lein |
| Uwch Ddiploma CIPD mewn Rheoli Pobl yn Strategol | L7 Rhan Amser | 17 Medi 2026 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd |