Cyrsiau Undydd

Mae Rhaglen Cyrsiau Undydd CAVC ar gyfer busnes yn cynnig diwrnod i ymgolli mewn pwnc sy’n bwysig i bob busnes. Caiff y cyrsiau hyn eu cynnal gan hyfforddwyr sy’n arbenigwyr yn eu maes. Byddant yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol am y pwnc, yn ogystal â strategaethau ac awgrymiadau ymarferol y gallwch eu defnyddio yn eich gwaith.

Cynhelir y cyrsiau yn ein canolfan hyfforddi yng nghanol Caerdydd. Y ffi fydd £150.

Datblygiad Proffesiynol – 20 Mawrth 2024

A ydych yn awyddus i gyrraedd eich llawn botensial neu ennill sgiliau newydd? Gall datblygiad proffesiynol esgor ar nifer o gyfleoedd ac mae’n agwedd bwysig ar dwf personol a thwf eich gyrfa. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i fuddsoddi yn eich datblygiad proffesiynol a chanolbwyntio ar y pethau y mae angen ichi eu gwneud er mwyn bod yn fwy cynhyrchiol.

Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • Deall a datblygu staff
  • Eich siwrnai datblygiad proffesiynol hyd yn hyn
  • Bel ydych chi ar hyn o bryd – eich cryfderau a’ch adnoddau
  • Eich nodau a’ch dyheadau, a sut i’w gwireddu
  • Cefnogi eraill a meithrin cydberthnasau

Cadeirio Cyfarfodydd – 21 Mawrth 2024

Bydd y sesiwn yn cychwyn trwy archwilio’r materion sy’n gysylltiedig â chadeirio cyfarfodydd, a sut y gall y math o gyfarfod a diben y cyfarfod effeithio ar hyn oll, oherwydd bydd yr elfennau hyn yn diffinio nodweddion y cyfarfod.

Yna, canolbwyntir ar yr agenda. Byddwn yn pennu ac yn archwilio nodweddion yr agenda, gan fynd ati i asesu’r effaith a gaiff ar y cyfarfod, yn cynnwys pwysigrwydd yr agenda fel ffordd o reoli pethau.

Yn olaf, rhoddir sylw i’r gwahanol rolau mewn cyfarfodydd, y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrthynt a sut y gellir defnyddio hyn o safbwynt atebolrwydd.

Cyllid i Reolwyr Anariannol – 16 Ebrill 2024

Bydd yr hyfforddiant yn cyflwyno trosolwg o Adrodd Ariannol, yn cynnwys ymwybyddiaeth o’i elfennau a’i fframwaith. Byddwn yn archwilio datganiadau ariannol gyda’n gilydd a cheir cyflwyniad byr i’r cysyniad sy’n sail i gofnodi dwbl. Bydd hyn yn pennu’r cyd-destun ar gyfer gweddill y sesiwn.


Byddwn yn tynnu sylw at dermau cyfrifyddu pan fo angen, yn cynnwys egluro beth yw gwariant Cyfalaf a Refeniw. Yna, bydd hyn yn cael ei gysylltu â chyfrifeg gyfrifoldeb a’r modd yr hwylusir hyn gan y broses gyllidebu a dadansoddi amrywiant. Yn y rhan hon, byddwn yn archwilio mathau o gostau ac ymddygiad costau, sy’n sail i’r broses gyllidebu.


Yn olaf, bydd cyflwyniad byr i ddehongli datganiadau ariannol yn gosod y sylfaen ar gyfer sut y gallwn ddwyn cymariaethau ariannol dros amser, ac yn erbyn safonau, yn cynnwys y cysylltiad rhwng hyn â chyfrifyddu cyfrifol.

Newid ac Arloesi yn y Gweithle – 18 Ebrill 2024

Rydym yn byw mewn byd sy’n newid. Mae pethau’n newid o’n cwmpas ym mhob man ac mae hyn yn digwydd ym mhob gweithle. Mae arloesi yn ysgogi newid, felly rhaid inni allu rheoli a derbyn newid yn ein bywydau gwaith. Bwriad y cwrs hwn yw eich gwneud yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd newid ac arloesi, a sonnir am ddulliau y gallwch eu defnyddio i reoli newid yn y gweithle.

Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • Pwysigrwydd newid ac arloesi yn y byd sydd ohoni
  • Sut ac o ble y daw newid
  • Yr effaith a gaiff newid ar bobl a sut i’w adnabod a’i reoli
  • Awgrymiadau a thechnegau ar gyfer rheoli newid

Cyflwyniad i Reoli Perfformiad – 7 Mai 2024

“Pobl yw’r rhai gorau am greu gwerth sefydliadol, felly mae rheoli eu perfformiad mewn modd effeithiol yn hanfodol i lwyddiant.” CIPD, 2022.

Mae rheoli perfformiad yn sgìl hanfodol y dylai pawb yn y sefydliad ei ddeall a’i roi ar waith; pa un a ydych yn rheoli eich perfformiad eich hun, yn rheolwr llinell sy’n cynorthwyo’i dîm i berfformio ar ei orau, neu’n gyfarwyddwr sy’n grymuso’r sefydliad i ymdrechu a ffynnu. Mae rheoli perfformiad yn berthnasol i bob un ohonom.

Bydd y sesiwn hon yn eich cynorthwyo i ddeall pa mor bwysig yw rheoli perfformiad a pha fanteision a ddaw i ran eich perfformiad, a hefyd cyflwynir dulliau a thechnegau a all eich helpu i berfformio ar eich gorau yn eich rôl.

Arwain ar gyfer Rhagoriaeth – 8 Mai 2024

Mae arweinyddiaeth yn elfen allweddol yn y byd sydd ohoni. Heb arweinyddiaeth, sut y gallwn wybod i ble rydym yn mynd a sut i gyrraedd y fan honno. Bwriad y cwrs hwn yw edrych ar arweinyddiaeth, sgiliau arwain, a’r priodoleddau a’r nodweddion sy’n perthyn i arweinwyr da yn unol â’r syniadau cyfredol.

Byddwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • Arwain a Rheoli a’r gwahaniaethau rhyngddynt
  • Sgiliau a phriodoleddau allweddol sy’n perthyn i arweinwyr da
  • Arweinyddiaeth a Gweledigaeth
  • Cyfathrebu a phennu ffocws a chyfeiriad clir
  • Cymell, Dirprwyo, Grymuso a Meithrin Ymddiriedaeth

Cysylltwch â

I gael rhagor o wybodaeth neu i neilltuo lle heddiw, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad business@cavc.ac.uk